Cymru: cyfarfod dirprwyedig Ionawr 2024
Atodlen o Benderfyniadau - Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Grwp Rheoli Cynefinoedd Sir Drefaldwyn - Community Biodiversity Action Support
Ymgeisydd: Grwp Rheoli Cynefinoedd Sir Drefaldwyn
Crynodeb Prosiect: Mae Grwp Rheoli Cynefinoedd Sir Drefaldwyn yn ceisio ariannu ar gyfer eu mentrau. Bydd hyn yn cynnwys costau gwefan a fforwm, cyfraniadau at gostau llafur a llogi offer i wella cynefinoedd, cyfarfodydd aelodau, ac ati.
Penderfyniad: Gwrthod
Forest School
Ymgeisydd: Friends of Abermorddu School
Crynodeb Prosiect: Nod y prosiect yw creu ardal Ysgol Goedwig trwy blannu mwy o goed, costau hyfforddi i sicrhau bod hwyluswyr wedi'u hyfforddi'n dda i gyflwyno sesiynau ac offer.
Penderfyniad: Gwrthod
Llangynidr Heritage Interpretation Panel
Ymgeisydd: Llangynidr local history society
Crynodeb Prosiect: Nod y prosiect yw dylunio, adeiladu a gosod y panel dehongli.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £6,180.00 (98.41%)
Hen Dŷ Cwrdd: An Eisteddfod Tradition
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru Welsh Religious Building Trust
Crynodeb Prosiect: Bwriad y prosiect yw datblygu hen gapel hanesyddol yr Hen Dŷ Cwrdd, i adrodd hanes yr eisteddfod, gwneud gwelliannau cyfalaf gyda golwg ar gynyddu nifer y digwyddiadau a hygyrchedd cymunedol.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £248,343.00 (81.66%)
The People's Charter: Voices for the Future
Ymgeisydd: The National Literacy Trust
Crynodeb Prosiect: Mae hwn yn cynnig archwilio ffyrdd newydd i gymunedau sydd heb gael eu gwasanaethu’n ddigonol ar draws Casnewydd, Caerffili a Thorfaen ddod o hyd i gysylltiadau personol a lleol â threftadaeth gyfoethog y Siartiaeth, gan ganolbwyntio ar ddeall sut y gall y dreftadaeth honno lywio a llunio’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Penderfyniad: Gwrthod
Playing our Part for Theatre Heritage and Access in North East Wales
Ymgeisydd: Theatr Clwyd Trust Ltd
Crynodeb Prosiect: Mae'r prosiect yn bwriadu ymgymryd â gwaith adnewyddu cyfalaf i Theatr Clwyd, gan ganolbwyntio ar wneud y theatr yn gwbl hygyrch trwy welliannau adeileddol.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £249,295.00 (39.93%)
River Wild: Connecting Nature and Community
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn Cyfyngedig
Crynodeb Prosiect: Mae’r prosiect hwn yn anelu at godi ymwybyddiaeth o waith adfer afonydd ffisegol arfaethedig sy’n cael ei wneud gan CNC yn Llandinam Gravels a Dolydd Hafren.
Penderfyniad: Gwrthod
Gladstone's Library: organisation, audiences, and archives scoping project.
Ymgeisydd: Gladstone's Library
Crynodeb Prosiect: Nod y prosiect yw llogi dau swyddog ymgysylltu/dysgu i gynnal ymchwil cynulleidfaoedd, gan bwysleisio ymgysylltu â chynulleidfaoedd ifainc (16-24 oed) trwy bartneriaethau rhwng ysgolion a sefydliadau ieuenctid, ac ar yr un pryd ymchwilio i drawsnewid gofodau llyfrgell fel yr Anecs a Neuadd Stephen Gladstone yn ganolfan archifau/ardal ymgysylltu.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £126,729.00 (92.5%)
The Goodwill Festival - Celebrating the Welsh and KwaZulu Natal Shared Heritage
Ymgeisydd: The Friends of The Royal Welsh Regimental Museum
Crynodeb Prosiect: I nodi 145 mlynedd ers y Rhyfel Eingl-Zwlw, mae’r prosiect naw mis yn canolbwyntio ar Aberhonddu, gan gynnwys Gŵyl Zwlw pedwar diwrnod, gweithdai, cyhoeddiadau, arddangosfeydd, cyfnewidiadau diwylliannol, a pherfformiadau ar draws nifer o leoliadau, gyda’r nod o ddathlu hanes a meithrin ymgysylltu cymunedol.
Penderfyniad: Gwrthod
Untold Stories of Welsh Global Heritage in Virtual Reality and Mixed Media
Ymgeisydd: Vision Fountain CIC
Crynodeb Prosiect: Mae'r prosiect yn cynnig prosiect dwy flynedd a fydd yn canolbwyntio ar gasglu storïau heb eu hadrodd y rhai sydd wedi mudo i Gymru, gan ganolbwyntio ar rai’r genhedlaeth hŷn.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £99,405.00 (100%)