Yr Athro Pedr ap Llwyd

Person looks at camera, standing nearby colourful window
Role
Aelod o Bwyllgor Cymru
Pedr yw Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Fe’i hapwyntiwyd i’r rôl yn 2019 wedi pedair blynedd fel Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus a chyn hynny bu’n Ysgrifennydd a Chyfarwyddwr Llywodraethiant y Llyfrgell.  Bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr ar Gyngor Llyfrau Cymru rhwng 1990 a 2003.

Mae’n credu’n gryf yng ngallu diwylliant a threftadaeth i gyfoethogi bywydau unigolion a chymunedau ac y dylent fod o fewn cyrraedd pawb, fel hawl naturiol.

Mae’n frodor o Wynedd ac fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgol Gogledd Cymru Bangor ble enillodd raddau BA, DAA ac MA. Mae’n ymarferwr cymwysedig ym meysydd adnoddau dynol proffesiynol ym meysydd adnoddau dynol a llywodraethiant gyhoeddus. Penodwyd Pedr yn Athro Ymarfer gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi sant yn 2023.

Mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cyfarwyddwr Anweithredol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac aelod anrhydeddus o’r Orsedd. 

Yn ei rôl fel Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, arweiniodd un o sefydliadau pwysicaf Cymru drwy gyfnod y pandemig gan ennill cydnabyddiaeth am lywio strategaeth drawsnewidiol ar gyfer y Llyfrgell. Ym mis Ionawr 2023, cafodd ei enwi yn un o’r Ysgogwyr Newid gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Llyfrgell wedi gweld datblygiadau pwysig dan ei arweinyddiaeth fel sefydlu Archif Ddarlledu Cymru.

Mae ei arbenigeddau ym meysydd Llyfrgellyddiaeth, Rheoli Gwybodaeth, Archifau, Addysg, Ymchwil, Treftadaeth, Polisi Cyhoeddus, Adnoddau Dynol ac Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus.