Dr Malcolm Smith

Dr Malcolm Smith, Aelod Pwyllgor Cymru
Mae Dr Malcolm Smith yn fiolegydd a bu'n Brif Wyddonydd a Dirprwy Brif Weithredwr yng Nghyngor Cefn Gwlad Cymru gynt rhwng 1996 a 2004, gan ddal nifer o swyddi uwch eraill ymlaen llaw.

Am chwe blynedd tan 2010 bu'n Aelod o Fwrdd Asiantaeth yr Amgylchedd, rheoleiddiwr amgylcheddol mwyaf Ewrop lle'r oedd yn cynrychioli buddiannau Cymru ac yn cadeirio dau is-grŵp y Bwrdd. Bu'n Aelod o Fwrdd Cyngor Defnyddwyr Cymru a Llais Defnyddwyr Cymru rhwng 2004 a 2014 ac mae'n cadw diddordeb mewn materion defnyddwyr, yn enwedig yn y diwydiannau ynni a dŵr.

Mae'n awdur llawrydd ac mae wedi cyhoeddi nifer o nodweddion ar yr amgylchedd, ffermio, bywyd gwyllt, gwyddoniaeth a threftadaeth dros nifer o flynyddoedd mewn amrywiaeth eang o gyhoeddiadau; yn y DU fel The Guardian, The Economist, The Daily Telegraph a The Independent a hefyd mewn sawl cylchgronau rhyngwladol. Mae wedi cyhoeddi tri llyfr, y mae pob un ohonynt wedi derbyn canmoliaeth feirniadol, gydag un arall i'w gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2018. O'r enw Ploughing a New Furrow: A Blueprint for Wildlife-Friendly Farming, mae'n archwilio'r difrod enfawr i gynefinoedd a bywyd gwyllt a achosir gan ffermio yn y DU a sut y gellir addasu systemau, cefnogaeth ac arferion ffermio ar ôl Brexit i ddarparu cynnyrch fferm o safon a meithrin bywyd gwyllt.