Andrew White

Andrew White
Ymunodd Andrew White â'r sefydliad ym mis Mehefin 2020 o Stonewall Cymru.

Mae Andrew wedi meithrin a rheoli amrywiaeth o bartneriaethau gyda rhanddeiliaid allweddol o'r sector cyhoeddus, diwydiant preifat, grwpiau cymunedol a mentrau amlasiantaeth drwy gydol ei yrfa.

Ar ôl wyth mlynedd fel Pennaeth y Sector Iechyd a Gwirfoddol ym Mwrdd yr Iaith Gymraeg, ymunodd â Stonewall Cymru fel Cyfarwyddwr yn 2010. Arweiniodd gyfraniadau Stonewall Cymru i ymgyrchoedd gan gynnwys Priodas Gyfartal, diwygio gwasanaeth Hunaniaeth Rhywedd Cymru, cynhwysiant mewn chwaraeon ac addysg a gweithleoedd cynhwysol.

Mae'n weithgar ym mywyd cyhoeddus Cymru ac mae wedi gwasanaethu ar nifer o rwydweithiau gan gynnwys Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, Bwrdd Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Llywio End Youth Homelessness Cymru. Mae hefyd yn Ymddiriedolwr TACT, sef yr Ymddiriedolaeth y Glasoed a Phlant.

Cafodd Andrew ei enwi'n drydydd yn y Pinc List 2015 o'r 40 o bobl LGBT mwyaf dylanwadol yng Nghymru. Cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Arweinwyr 2016 yng Nghymru ac yn 2018 cafodd ei anrhydeddu gan Orsedd y Beirdd. Yn 2019, fe'i penodwyd gan Brif Weinidog Cymru i'r Pwyllgor Ymgynghorol ar gyfer gwobrau Dewi Sant, Gwobrau Cenedlaethol Cymru.

Mae'n byw yn Rhondda Cynon Taf gyda'i ŵr a'i fab.