Gofynion cydnabyddiaeth grant Lleoedd Treftadaeth
Ynghylch Lleoedd Treftadaeth
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn buddsoddi hyd at £200miliwn mewn lleoedd ar draws y DU i roi treftadaeth wrth wraidd dulliau lleol sy'n gwella cysylltiadau pobl â'r lleoedd y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt, ac yn ymweld â hwy.
Cydnabod eich grant
Rhaid i grantïon beidio â chynhyrchu eu delwedd hunaniaeth eu hunain ar gyfer prosiect Lleoedd Treftadaeth. Dylid defnyddio pecyn cymorth Cydnabyddiaeth safonol y Gronfa Treftadaeth. Mae'r pecyn cymorth yn amlinellu sut y dylid rhoi cydnabyddiaeth i'ch prosiect. Fel y prif ariannwr mae arnom angen safle annibynnol ar gyfer y stamp cydnabyddiaeth ar yr holl ddeunyddiau a gweithgareddau hyrwyddo sy'n gysylltiedig â'r prosiect. Dylai unrhyw bartneriaid eraill fod mewn safle eilaidd.
Darllenwch ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth
Gellir dod o hyd i ddolenni i'n stamp cydnabyddiaeth yn y pecyn cymorth cydnabyddiaeth. Rhaid i bob prosiect a gyflwynir yng Nghymru ddangos y stamp cydnabyddiaeth Cymraeg a Saesneg dwyieithog.
Testun safonol Lleoedd Treftadaeth
Yn ychwanegol at y datganiad cydnabyddiaeth (sydd ar gael yn y pecyn cymorth cydnabyddiaeth) dylech ddefnyddio’r testun safonol a ganlyn hefyd wrth siarad am Lleoedd Treftadaeth:
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn buddsoddi hyd at £200miliwn mewn lleoedd ar draws y DU i roi treftadaeth wrth wraidd dulliau lleol sy'n gwella cysylltiadau pobl â'r lleoedd y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt, ac yn ymweld â hwy.
Postiadau cyfryngau cymdeithasol
n ychwanegol at yr arweiniad yn ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth gofynnir i chi ddefnyddio'r hashnod #LleoeddTreftdaeth hefyd:
Datganiad etifeddiaeth - defnyddiwch y datganiad hwn ar ôl i'r prosiect ddod i ben
Gwnaed [enw’r prosiect] yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol fel rhan o'r Fenter Strategol Lleoedd Treftadaeth.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch cydnabyddiaeth, gyrrwch e-bost brand@heritagefund.org.uk.