Cymru: cyfarfod dirprwyedig Rhagfyr 2024
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
High Street Chapel Building Project
Ymgeisydd: Friends of High Street Baptist Church
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect deufis yw hwn sydd â’r nod o atgyweirio hollt ar wal dalcen adeilad y capel sy'n achosi treiddiad lleithder yn uniongyrchol y tu ôl i’r organ bib.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £47,195 (99%)
Learning from the Past: Giving to the Future
Ymgeisydd: Prosiect Down To Earth
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect dwy flynedd yw hwn sydd â'r nod o gyflwyno amrywiaeth o raglenni addysgol â ffocws ar lesiant a chyrsiau hyfforddi mewn adeiladu traddodiadol a naturiol a rheoli tir cynaliadwy i bobl ifanc ac oedolion o grwpiau cymunedau difreintiedig ac agored i niwed yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gâr.
Penderfyniad: Gwrthod
Camlas Aberhonddu | Brecon Canal 225
Ymgeisydd: Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect un mis ar bymtheg (Rhagfyr 2024 i Fawrth 2026) o waith cadwraeth ymarferol ar dri safle treftadaeth a chyfres o ddigwyddiadau, gweithdai ac arddangosfeydd i ddathlu pen-blwydd Camlas Aberhonddu yn 225 mlwydd oed.
Penderfyniad: Gwrthod
40 Years On: LGBTQ+ activism and life in Wales 1985–2025
Ymgeisydd: Mardi Gras Lesbiaidd Hoyw, Deurywiol a Thrawsryw Caerdydd yng Nghymru
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect pedwar mis (Rhagfyr 2024 i Fawrth 2025) i gyflwyno ystod o weithgareddau ar draws Mis Hanes LHDTC+ i ddathlu, codi ymwybyddiaeth a brwydro yn erbyn dilead hanes LHDTC+ yng Nghymru wrth gasglu a chadw storïau ac arteffactau.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £26,220 (100%)
Adeiladu Cynaladwyedd a Chydnerthedd: Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect dwy flynedd yw hwn sydd â'r nod o atgyfnerthu Heneb, sydd newydd ei sefydlu fel sefydliad cydnerth a chynaliadwy ar raddfa genedlaethol. Bydd y prosiect yn ceisio cryfhau gweithrediadau, strategaeth a gwaith ymgysylltu cyhoeddus y sefydliad a chynyddu cyfranogiad gwirfoddolwyr, creu presenoldeb digidol cryfach, ac amrywio ffrydiau refeniw.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £238,150 (100%)
Bronheulog / Adnewyddu Bwthyn Sefydliad y Merched
Ymgeisydd: Sefydliad y Merched Llanafan
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect 7 mis (Rhagfyr 2024 – Mehefin 2025) yw hwn sydd â’r nod o wella man cyfarfod rhestredig Gradd 2 Sefydliad y Merched Llanafan, sef Bronheulog yng Ngheredigion. Mae diffyg gwres canolog a dŵr o'r prif gyflenwad, ynghyd â seddau anghyfforddus, yn golygu bod rhwystrau i fynediad ar hyn o bryd ar gyfer y rhai sydd efallai yn dymuno dod i gyfarfodydd SyM.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £11,782 (96%)
Growing Communities
Ymgeisydd: Ein Cegin CIC
Disgrifiad o'r Prosiect: Mae’r prosiect wedi’i amserlennu i bara deuddeg mis a phrif nodau’r prosiect yw gweithio i wella mynediad at fwyd maethlon a gynhyrchir yn gynaliadwy trwy weithdai coginio cymunedol am ddim a darpariaeth bwyd cynnes, gan ddod â phobl at ei gilydd i goginio a bwyta bwyd tymhorol ffres lleol, gan ddod â theuluoedd difreintiedig ac agored i niwed ynghyd i archwilio eu hanes bwyd, casglu storïau ac atgofion bwyd a dathlu treftadaeth fwyd leol
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £16,550 (100%)
Casgliad Cof/Memory Collection
Ymgeisydd: Making Sense CIO
Disgrifiad o'r Prosiect: Bwriad y prosiect dwy flynedd hwn yw creu casgliad cof parhaol o eitemau bob dydd o’r 1950au i’r 1980au i’w defnyddio fel adnoddau hel atgofion ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia.
Penderfyniad: Gwrthod
Ynys Greigiog – Building Resilience at Ynys-hir / Ynys Greigiog – Adeiladu Gwydnwch yn Ynys-hir
Ymgeisydd: Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)
Disgrifiad o'r Prosiect: Mae hwn yn brosiect carlam tair blynedd i brynu tir gerllaw gwarchodfa natur Ynys-Hir RSPB Cymru, gwrthdroi ei dirywiad ecolegol, a chynyddu cwmpas eu rheolaeth ar gynefinoedd.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £205,005 (49%)
Cynnydd grant
The extension, enhancement and future-proofing of the Y Lanfa Community and Cultural Hub and Wharf.
Ymgeisydd: Cyngor Sir Powys
Disgrifiad o'r Prosiect: Fel rhan o'r prosiect hwn, mae estyniad i adeilad Y Lanfa yn cael ei greu - bydd y canopi presennol ar yr adeilad yn cael ei amgáu ar ddwy ochr gyda gwydr ac ar y trydydd gyda wal cedrwydd i ddarparu gofod deulawr newydd. Bydd hyn yn creu man cymunedol hyblyg a mwy hygyrch fel lleoliad ar gyfer grwpiau lleol ac yn galluogi mwy o arddangosfeydd a rhaglenni addysgol.
Penderfyniad: Gwrthod