Canllawiau asiantaethau statudol a chyrff cyhoeddus

Canllawiau asiantaethau statudol a chyrff cyhoeddus

See all updates
Mae'n un o delerau'r holl ariannu yr ydym yn ei ddyfarnu, ac yn ei ddosbarthu ar ran cyrff eraill, bod yn rhaid i grantïon ddilyn yr holl ddeddfwriaeth a rheoliadau sy'n berthnasol i'w prosiect.

Trwy ddarllen y canllaw hwn fe gewch grynodeb o asiantaethau a chyngor sy'n berthnasol i ystod eang o brosiectau treftadaeth.

Ni fwriedir iddi fod yn rhestr hollgynhwysfawr. Wrth i chi baratoi eich cais a chynllunio eich prosiect, dylech wneud eich ymchwil eich hun i nodi canllawiau statudol eraill a allai fod yn berthnasol. Bydd y rhestr hon yn eich helpu i ddechrau meddwl am yr hyn a allai fod yn berthnasol i chi. 

Yr amgylchedd hanesyddol

Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS)

Er bod y rhan fwyaf o gyngor ac arweiniad gan DCMS yn cael eu darparu drwy asiantaethau a chyrff hyd braich, mae DCMS yn cyhoeddi rhai canllawiau ar faterion sy'n benodol i'r sector ar draws cymdeithas sifil a diwylliant.

Mae DCMS wedi cyhoeddi canllawiau ar Ymdrin ag Asedau Treftadaeth Coffaol sydd wedi cael eu Herio, y cyfeirir ato hefyd fel y polisi 'cadw ac esbonio'. Mae’r polisi hwn, a gyhoeddwyd yn 2023, yn canolbwyntio ar gadw asedau treftadaeth coffaol yn eu lle a darparu esboniad cynhwysfawr sy’n caniatáu i stori gyfan y person, yr adeilad neu’r digwyddiad gael ei adrodd fel y gellir deall y cyd-destun hanesyddol yn llawnach. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i gerfluniau, henebion neu goffáu yn Lloegr. Nid yw'n ymdrin â chasgliadau amgueddfeydd ac orielau, treftadaeth anniriaethol na choffáu y tu allan i Loegr.

Historic England

Corff cynghori llywodraeth y DU ar yr amgylchedd hanesyddol yn Lloegr, gan gynnwys dynodiad a rolau statudol penodol yn y system gynllunio. Mae ei lyfrgell gyngor yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad ar:

  • y system gynllunio ar gyfer prosiectau cyfalaf, datblygwyr a pherchnogion adeiladau hanesyddol, parciau, gerddi, meysydd gad a henebion
  • sut i gyflwyno prosiectau sy'n ymwneud â gofalu am safleoedd hanesyddol, eu hadfer a'u gwarchod, gan gynnwys ôl-osod
  • Y Gofrestr Treftadaeth mewn Perygl
  • astudiaethau achos ac arfer da ar ymgynghori ac ailddehongli treftadaeth sydd wedi cael ei herio

Historic Environment Scotland

Y corff hyd braich sy'n gofalu am amgylchedd hanesyddol Yr Alban ac yn ei hyrwyddo ac sy'n darparu ymchwil a dadansoddiadau i lywio arfer. Mae ei gynnig cyngor ac arweiniad yn cynnwys pynciau fel: 

  • adeiladau rhestredig, henebion cofrestredig a dynodiadau eraill 
  • cyngor a chaniatâd cynllunio
  • Cofrestr Adeiladau mewn Perygl Yr Alban

Cadw

Y corff statudol sy’n bodoli i warchod amgylchedd hanesyddol Cymru a hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Mae ei gyngor ac arweiniad yn ymdrin â:

  • gwarchod a rheoli asedau hanesyddol gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig
  • cyngor cynllunio gan gynnwys asesiadau effaith treftadaeth
  • newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd hanesyddol

Yn 2020, penododd Prif Weinidog Cymru grŵp tasg a gorffen i gynnal archwiliad o henebion cyhoeddus, enwau strydoedd ac adeiladau er mwyn deall yn well y cysylltiadau â chaethwasiaeth a’r Ymerodraeth Brydeinig yn Affrica ac India’r Gorllewin. Gofynnwyd iddo hefyd ymchwilio a nodi ffigurau hanesyddol o dras ddu yng Nghymru. Archwiliwch y canfyddiadau (a ddiwygiwyd ym mis Rhagfyr 2021): Y Fasnach mewn Caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffáu yng Nghymru.

Isadran yr Amgylchedd Hanesyddol, Adran Cymunedau Gogledd Iwerddon

Y corff cynghori arbenigol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Gogledd Iwerddon. Mae'n cofnodi, yn gwarchod, yn cadw ac yn hyrwyddo amgylchedd hanesyddol Gogledd Iwerddon ac yn cyhoeddi canllawiau, pecynnau cymorth, mapiau ar-lein a chronfeydd data.

Amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau

Cyngor Celfyddydau Lloegr

Asiantaeth datblygu'r sector ar gyfer creadigrwydd a diwylliant yn Lloegr. Mae'n cyhoeddi cyngor a chanllawiau ond yn canolbwyntio'n bennaf ar ei rhaglenni grant a'i hegwyddorion buddsoddi ei hun.

Museums Galleries Scotland

Y corff datblygu cenedlaethol ar gyfer sector amgueddfeydd Yr Alban. Mae'n darparu ystod eang o gyngor a chanllawiau i gefnogi amgueddfeydd ac orielau yn Yr Alban, gan gwmpasu casgliadau, cynulleidfaoedd ac ennyn diddordeb.

Gwnaeth prosiect a noddwyd gan Lywodraeth Yr Alban, Empire, Slavery & Scotland's Museums, argymhellion ar sut i fynd i’r afael â chyfranogiad Yr Alban yn imperialaeth, gwladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol gan ddefnyddio amgueddfeydd a chasgliadau. 

Cyngor Celfyddydau Cymru

Y corff statudol sy’n ariannu, yn datblygu ac yn cynghori ar y celfyddydau yng Nghymru. Mae'n darparu gwybodaeth, arweiniad a chyngor yn bennaf ar gyfer ei ffrydiau ariannu ei hun, ond gall rhai canllawiau fod yn berthnasol hefyd i brosiectau diwylliannol mwy creadigol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer cyrff cyhoeddus ac awdurdodau lleol ar sut i ymdrin â choffáu cyhoeddus yng Nghymru.

Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon 

Sefydliad ariannu a datblygu'r celfyddydau yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r asiantaeth yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer ei brosiectau, pecynnau cymorth ac ymchwil ei hun

Tir, môr a natur

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra)

Mae Defra yn cyhoeddi canllawiau statudol ar bolisi a deddfwriaeth sy’n effeithio ar brosiectau tir a natur yn Lloegr, gan gynnwys canllawiau ar:

Natural England

Cynghorydd llywodraeth y DU ar gyfer yr amgylchedd naturiol yn Lloegr. Mae'n helpu gwarchod natur a thirweddau ac yn cyhoeddi canllawiau technegol ar bob agwedd ar stiwardiaeth a rheolaeth yr amgylchedd naturiol. 

NatureScot

Y corff cyhoeddus arweiniol sy’n gyfrifol am gynghori Llywodraeth Yr Alban ar hybu a gofalu am ei threftadaeth naturiol a’i defnyddio’n gynaliadwy. Mae'n darparu nodiadau polisi a chanllaw ar ystod o bynciau yn ymwneud â natur a thirweddau. 

Cyfoeth Naturiol Cymru

Y corff cyhoeddus a noddir gan Lywodraeth Cymru i warchod a gwella’r amgylchedd naturiol a chyflawni rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol fel y nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'n darparu canllawiau a chyngor ar draws nifer o bynciau a sectorau amgylcheddol. 

Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon

Asiantaeth weithredol o fewn Adran Amaethyddiaeth, Yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae’n bodoli i warchod a gwella’r amgylchedd, darparu buddion iechyd a lles a chefnogi twf economaidd yng Ngogledd Iwerddon. Cyhoeddir canllawiau ac adnoddau ar ei gwefan.

Themâu canllawiau statudol eraill

Gan ddibynnu ar eich treftadaeth a natur gweithgareddau ac allbynnau’r prosiect yr ydych yn eu cynllunio, gall hefyd fod yn berthnasol ystyried canllawiau a chyngor gan gyrff statudol gan gynnwys: 

  • Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: pynciau megis rhedeg digwyddiadau cyhoeddus yn ddiogel 
  • Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: amrywiaeth o ganllawiau ac offer ar warchod data a rheoli data 
  • Adrannau Addysg yn Lloegr a'r llywodraethau datganoledig: canllawiau statudol ar ddiogelu ar gyfer sefydliadau sy'n ymwneud ag addysg a sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 
  • Mae Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr a Rheoleiddiwr Elusennau'r Alban (OSCR) yn darparu canllawiau ar faterion cyfreithiol a rheoleiddiol o ran llywodraethu elusennau, codi arian, cyfrifon, adrodd ariannol, treth a sefydlu neu gau elusennau cofrestredig yn eu priod awdurdodaethau yng Nghymru a Lloegr a'r Alban.