Cymru: cyfarfod dirprwyedig Medi 2024

Cymru: cyfarfod dirprwyedig Medi 2024

See all updates
Atodlen o benderfyniadau o dan bwerau dirprwyedig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer Cymru ar 3 Medi 2024.

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Y Gwyllt

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Disgrifiad o'r prosiect: Cais i barhau â phrosiect bach presennol (NS-23-00628) sy'n darparu gweithgareddau natur i bobl ifanc a theuluoedd sy'n ymwneud â Thîm Diogelu Castell-nedd Port Talbot.

Penderfyniad: Gwrthod

Eglwys Illtud Sant Pen-bre: Atgyweiriadau i Agoriadau Lwfer y Tŵr

Ymgeisydd: Illtyd Sant

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect byr yw hwn i atgyweirio a diogelu tŵr canoloesol ac adeiledd ehangach eglwys Sant Illtyd ym Mhen-bre.

Penderfyniad: dyfarnu grant o £33,109 (72%)

Basketry: Rescuing, Reviving, Retaining

Ymgeisydd: Denbighshire Leisure Limited

Disgrifiad o'r prosiect: Nod y prosiect chwe mis hwn yw dathlu a hyrwyddo sgiliau gwneud basgedi Cymreig traddodiadol ar yr un pryd ag arddangosfa gelf fawr yng Nghanolfan Grefftau Rhuthun a fydd yn cynnwys gwaith gwneuthurwyr basgedi Prydeinig cyfoes.

Penderfyniad: dyfarnu grant o £18,550 (90%)

Voices for the Future

Ymgeisydd: The National Literacy Trust

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect 30 mis yw hwn sydd â'r nod o archwilio ffyrdd newydd i gymunedau amrywiol ar draws Casnewydd, Caerffili a Thorfaen ddod o hyd i gysylltiadau â threftadaeth leol y Siartiaeth, gan ganolbwyntio ar ddeall sut y gall y dreftadaeth honno lywio a siapio’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Penderfyniad: dyfarnu grant o £249,823 (90%)

Treftadaeth LHDTCRhA+ Sir Gâr: Dathliad 10 Mlynedd

Ymgeisydd: CETMA Cyf

Disgrifiad o'r prosiect: Nod y prosiect 16 mis hwn yw coladu treftadaeth LHDTCRhA+ Sir Gâr a dathlu deng mlynedd o waith CETMA yn cefnogi'r gymuned LHDTCRhA+ leol.

Penderfyniad: Gwrthod

The Secret Garden

Ymgeisydd: Innovate Trust Ltd

Disgrifiad o'r prosiect: Bwriad y prosiect dau fis ar bymtheg hwn yw datblygu Ysgubor Fawr, gardd o fewn tiroedd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Bydd y prosiect yn cynnwys gweithio gyda phobl sydd ag anableddau dysgu ar draws Caerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf.

Penderfyniad: dyfarnu grant o £54,888 (86%)

Atgyweiriadau to Rhydwilym, dehongliad hanesyddol a gwaith ategol

Ymgeisydd: Eiddo'r Ymddiriedolaeth a Ddelir mewn Cysylltiad â Chapel Bedyddwyr Rhydwilym, Llandysilio

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect pedwar mis yw hwn i atgyweirio, adfer a diogelu tri adeilad rhestredig yng Nghapel y Bedyddwyr Rhydwilym, Llandysilio

Penderfyniad: dyfarnu grant o £67,197 (56%)

Adnewyddu bwthyn Sefydliad y Merched Llanafan

Ymgeisydd: Sefydliad y Merched Llanafan

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect 7 mis o hyd gyda’r nod o wella man cyfarfod Sefydliad y Merched Llanafan, Bronheulog, sy’n fwthyn carreg rhestredig Gradd II yn Llanafan, Ceredigion.

Penderfyniad: Gwrthod