Gofynion cydnabyddiaeth grant Cysylltiadau Tirwedd

Gofynion cydnabyddiaeth grant Cysylltiadau Tirwedd

TDylai'r canllawiau hyn gael eu defnyddio gan unrhyw brosiect sy'n derbyn grant gan y fenter strategol Cysylltiadau Tirwedd.

Sut i enwi eich prosiect

Gofynnir i chi roi ‘#LC’ ar ddechrau teitl eich prosiect. Dylai enw eich prosiect gynnwys y testun Cysylltiadau Tirwedd. Y dull o enwi a ffafrir gennym yw:

Cysylltiadau Tirwedd [enw'r ardal]

Mae hwn i'w ddefnyddio mewn testun yn unig. Ni ddylai grantïon gynhyrchu eu delwedd hunaniaeth eu hunain ar gyfer prosiect Cysylltiadau Tirwedd.

Cydnabod eich grant

Dylai prosiectau sy'n derbyn ariannu Cysylltiadau Tirwedd ddilyn yr arweiniad yn ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth.

Fel y prif ariannwr mae arnom angen safle annibynnol ar gyfer y stamp cydnabyddiaeth ar yr holl ddeunyddiau a gweithgareddau hyrwyddo sy'n gysylltiedig â'r prosiect. Dylai unrhyw bartneriaid eraill fod mewn safle eilaidd.

Lawrlwytho stamp cydnabyddiaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Dylid gosod y stamp cydnabyddiaeth fel yr amlinellir yn y pecyn cymorth.

Rhaid darparu cydnabyddiaeth ddwyieithog ar gyfer unrhyw brosiectau yng Nghymru. 

Sut i siarad am eich grant Cysylltiadau Tirwedd

Mae gennym arweiniad ar sut i siarad am eich grant yn y pecyn cymorth cydnabyddiaeth. Gweler y testun safonol ychwanegol ar sut i siarad am eich prosiect Cysylltiadau Tirwedd isod hefyd.

Ynghylch Cysylltiadau Tirwedd

Dylid defnyddio'r testun hwn i ddisgrifio'ch prosiect ar wefannau ac mewn nodiadau i olygyddion.

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn buddsoddi £150miliwn dros 10 mlynedd i gefnogi prosiectau ar raddfa fawr i adfywio tirweddau, cefnogi adferiad byd natur a gwella’r cysylltiadau rhwng pobl a bywyd gwyllt ar draws y DU.

Postiadau cyfryngau cymdeithasol

Yn ychwanegol at yr arweiniad yn ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth gofynnir i chi ddefnyddio'r hashnod #CysylltiadauTirwedd hefyd

Etifeddiaeth

Defnyddiwch y datganiad hwn ar ôl i'r prosiect ddod i ben.

Gwnaed [enw'r prosiect] yn bosibl diolch i fuddsoddiad cychwynnol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Roedd yn rhan o fenter fuddsoddi gwerth £150miliwn dros 10 mlynedd i gefnogi prosiectau ar raddfa fawr i adfywio tirweddau, cefnogi adferiad byd natur a gwella cysylltedd i bobl a bywyd gwyllt.

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, gyrrwch e-bost i brand@heritagefund.org.uk neu pressoffice@heritagefund.org.uk