Hyrwyddwch eich oriau agor a digwyddiadau haf gyda'm hymgyrch #TreftadaethArAgor
Dathlwch eich prosiect treftadaeth a rhowch wybod i bobl am ddigwyddiadau sydd ar y gweill, y lleoedd y gallant ymweld ag ef, neu pan fydd eich prosiect yn agor.
Mae ein momentau cyfryngau cymdeithasol yn cyrraedd miloedd o ddefnyddwyr ac yn trendio'n rheolaidd yn y pump uchaf felly mae cymryd rhan yn ffordd wych o gydnabod eich grant a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Sut i gymryd rhan
- Rhannwch bostiad cyfryngau cymdeithasol 9am dydd Gwener 21 Mehefin 2024.
- Dangoswch wybodaeth am eich prosiect treftadaeth, digwyddiadau'r haf ac agoriadau, a chofiwch gynnwys delwedd wych.
- Rhowch #TreftadaethArAgor a thagiwch @HeritageFundCYM.
- Defnyddiwch y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol rydych chi'n hoffi eu defnyddio orau. Byddwn yn blaenoriaethu Instagram, X a Facebook.
- Daliwch ati i ddefnyddio’r hashnod drwy gydol yr haf i rannu uchafbwyntiau o'ch digwyddiadau a’ch prosiectau.
Rydym wrth ein bodd yn cael eich prosiectau treftadaeth i drendio a lledaenu newyddion cadarnhaol ar draws y we. Byddwn yn rhannu ac yn hoffi eich postiadau, ac yn parhau i rannu'r agoriadau a'r digwyddiadau treftadaeth gwych drwy'r haf ochr yn ochr â chynnwys o'n teithiau ein hunain.
Am fod eleni yn nodi ein pen-blwydd yn 30 oed, byddwn hefyd yn rhannu prosiectau o'r 30 mlynedd diwethaf. Os hoffech chi daflu'r sbotolau ar brosiect hŷn sydd ar agor i'r cyhoedd ymweld ag ef o hyd, cofiwch gymryd rhan.
Chwilio am syniadau?
Dyma rai postiadau drafft i'ch rhoi ar ben ffordd:
- Rydyn ni'n ymuno â @HeritageFundCYM i ddathlu #TreftadaethArAgor! Yr #haf yma gallwch ymweld â (nodwch enw'r prosiect a gwybodaeth)
- Mae #TreftadaethArAgor ac rydym wrth ein boddau y gallwch ymweld â (nodwch y prosiect, lle neu ddigwyddiad treftadaeth) o (nodwch y dyddiad). Diolch i gefnogaeth gan y #LoteriGenedlaethol #CronfaTreftadaeth @HeritageFundCYM
- Diolch i gefnogaeth gan @HeritageFundCYM gallwch ymweld â (nodwch y prosiect, lle neu ddigwyddiad treftadaeth) i gael gwybod mwy am (nodwch wybodaeth) #TreftadaethArAgor
Am fwy o ysbrydoliaeth mynnwch gip ar bostiadau'r llynedd ar X.
Mwy o ddyddiadau i'ch calendr cyfryngau cymdeithasol
Medi 2024. Yr hydref yma rydyn ni'n dathlu ein pen-blwydd yn 30 oed. Cadwch lygad allan am y pecyn cymorth pen-blwydd a fydd yn cyrraedd yn fuan a rhannwch bostiad cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ein pen-blwydd ym mis Medi gan ddefnyddio #LoteriGenedlaethol30.
11 Ionawr 2025. Ymunwch â'n diwrnod #TrysorauTreftadaeth blynyddol ar 11 Ionawr. Dyma foment i rannu eich storïau, gwrthrychau, lleoedd a phobl treftadaeth wych.
A chofiwch dagio ni ym mhostiadau diweddaraf eich prosiect treftadaeth a defnyddiwch #Loteri Genedlaethol #CronfaTreftadaeth. Diolch am gymryd rhan ac edrychwn ymlaen at weld eich postiadau cyfryngau cymdeithasol!