Proffil staff: Reiss Jones, Swyddog Gweithredol Cyfathrebu Digidol
Beth yw cyfrifoldebau eich rôl?
Popeth yn ymwneud â chyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu digidol – o rannu ein newyddion ariannu diweddaraf ar LinkedIn, i greu Instagram Reels sy'n dangos y dreftadaeth rydyn ni’n ei chefnogi. Rwy'n gweithio ar draws ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol i rannu effaith ein hariannu a chyrraedd ymgeiswyr newydd. Yn ogystal â datblygu cynnwys cymdeithasol, rwy’n cefnogi’r Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol i gynllunio ymgyrchoedd ac yn cefnogi’r tîm Marchnata a Chyfathrebu ehangach drwy olygu fideos, creu gwaith graffeg ac ysgrifennu storïau i'r wefan.
Rwyf hefyd yn Hyrwyddwr Diwylliant dros yr adran, sy'n golygu fy mod yn llysgennad dros helpu ymwreiddio ein gwerthoedd a'n hymddygiadau. Mae hyn hefyd yn fy ngalluogi i weithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad a gydag uwch arweinwyr.
Beth ydych chi'n ei fwynhau am weithio yma?
Y bobl. Mae eich cydweithwyr wir yn gwneud gwahaniaeth i'ch diwrnod gwaith, ac mae fy nghydweithwyr yn y Gronfa Treftadaeth yn gefnogol iawn. Mae’r tîm Marchnata a Chyfathrebu wedi’i leoli ar draws y DU, felly rydyn ni’n ennyn creadigrwydd drwy weithgareddau cymdeithasol rhithwir fel ffordd o gadw mewn cysylltiad.
Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfle i archwilio a dysgu am dreftadaeth nad wyf wedi ymweld â hi o’r blaen, ac i gipio cynnwys ar gyfer ein sianeli cymdeithasol.
Beth sy'n eich cymell chi yn y gwaith?
Tirwedd fythol-newidiol y cyfryngau cymdeithasol. Mae bob amser rhywbeth newydd i'w ddysgu neu dueddiadau newydd i neidio arnynt. A thrwy'r holl brosiectau treftadaeth rydyn ni'n eu hariannu, dwi bob amser yn darganfod storïau a threftadaeth newydd. Mae'n wych medru rhannu'r storïau hynny a'r effaith y mae ein hariannu'n ei chael.
Beth yw uchafbwynt eich amser yn y Gronfa Treftadaeth?
Dwi wir wedi mwynhau gweithio ar ein hymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, fel #TreftadaethArAgor. Mae'n ymgyrch rydyn ni'n ei rhedeg bob haf i dynnu sylw at yr agoriadau sydd wedi bod yn bosibl gyda'n hariannu. Mae hefyd wedi fy ngalluogi i fforio lleoedd newydd. Y llynedd es i Black Country Living Museum ac Orielau Cenedlaethol Yr Alban i gipio cynnwys - dyma oedd fy nhro cyntaf i'r ddau, ac rwy'n argymell ymweliad.
Beth yw eich hoff fath o dreftadaeth?
Mae hynny'n un anodd, ond rwyf wrth fy modd â'n treftadaeth naturiol ac yn gwerthfawrogi cael parciau rydym wedi'u cefnogi gerllaw. Pan oeddwn i’n gweithio yn nhîm Canolbarth a Dwyrain Lloegr, ces i gyfle i weithio gyda phrosiect o’r enw Pollinating the Peak, a oedd yn adfywio nifer y cacwn bwm yn y Peak District yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’u pwysigrwydd. Aeth y prosiect ymlaen i ennill Prosiect y Flwyddyn y Loteri Genedlaethol.