Sefydlu gwaelodlin carbon a dull datgarboneiddio ar gyfer ein buddsoddiadau

Sefydlu gwaelodlin carbon a dull datgarboneiddio ar gyfer ein buddsoddiadau

Mae'r adroddiad hwn yn adolygu ôl troed carbon portffolio grantiau'r Gronfa Dreftadaeth ac yn argymell dull o leihau effeithiau amgylcheddol ein hariannu.

Rydym wedi'n hymrwymo i gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net ar gyfer ein gweithrediadau erbyn 2030, ac ar gyfer ein portffolio grantiau erbyn 2050.

Yn 2021, fe wnaethom feintioli ôl troed carbon ein gweithrediadau. Yn 2023, fe wnaethom gomisiynu 3ADAPT i fesur ôl troed carbon ein buddsoddiadau.

Nodau'r ymchwil hon oedd:

  • deall manteision ac anfanteision gwahanol ddulliau o amcangyfrif ein heffeithiau carbon 
  • deall y broses ar gyfer casglu data newydd 
  • amcangyfrif ôl troed carbon blynyddol y prosiectau a ariannwn
  • deall effaith amgylcheddol hirdymor ein buddsoddiadau 

Dewiswyd blwyddyn waelodlin o 2019/20 a chynhaliwyd astudiaeth ddesg o ddata a oedd eisoes ar gael i asesu’r allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â phrosiectau.

Canfyddiadau allweddol

Mae’r adroddiad yn nodi ffynonellau tebygol o allyriadau carbon ar draws amrywiaeth o brosiectau – y tri mwyaf arwyddocaol yw:

  • teithio (ymwelwyr a gwirfoddolwyr)
  • nwyddau a gwasanaethau a brynwyd
  • gwaith cyfalaf (carbon ymgorfforedig o nwyddau cyfalaf a defnydd o ynni)

Mae hefyd  yn awgrymu dulliau ar gyfer asesu’r effeithiau carbon: dadansoddiad seiliedig ar arolygon/cyfweliadau sy'n darparu'r asesiad mwyaf cyflawn o ffynonellau allyriadau. Gall hefyd ystyried yr effeithiau cadarnhaol, megis defnyddio llai o ynni.

Argymhellion

Er bod yr adroddiad yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr mae hefyd yn dangos bod mwy i ni ei wneud. Mae’n argymell chwe cham nesaf:

  1. categoreiddio ein portffolio ac ehangu'r sampl waelodlin
  2. sefydlu prosesau casglu data
  3. ymchwilio i'r defnydd o feddalwedd i leihau'r baich ar grantïon
  4. sefydlu cyfres o astudiaethau achos
  5. ailedrych ar lwybrau datgarboneiddio a'r targed sero net
  6. ymchwilio i gyflwyno safonau perfformiad amgylcheddol

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch y PDF sydd ynghlwm wrth y dudalen hon i ddarllen y crynodeb gweithredol o'n hadroddiad gwaelodlin carbon a datgarboneiddio. Mae'n cynnwys gwybodaeth am y fethodoleg, y dull meintioli, gosod targedau a throsolwg o'r argymhellion a'r camau nesaf. Mae'r adroddiad llawn ar gael ar gais.

Mae'r Gronfa Treftadaeth wedi'i hymrwymo i gefnogi prosiectau amgylcheddol gynaliadwy sy'n helpu'r DU i gyrraedd ei thargedau adferiad natur ac i liniaru effaith y newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth.  Archwiliwch ein hegwyddorion buddsoddi Treftadaeth 2033 i weld yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n gilydd a'r hyn yr ydym am ei gyflawni.

Ein gwaith ymchwil a gwerthuso

Rydym yn cynnal ymchwil yn rheolaidd i ddarganfod beth sy'n digwydd yn y sector treftadaeth, ac yn gwerthuso ein gwaith i ddeall yn well y newid yr ydym yn ei wneud. Darllen mwy o'n mewnwelediad.