
Ganed Roisha yn Belfast ac fe’i magwyd yn Ne Llundain cyn astudio ieithoedd modern a chanoloesol ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Dechreuodd Roisha ei gyrfa yn y gwasanaeth sifil yn yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, gan weithio ar gais Llywodraeth y DU i gynnal Gemau Olympaidd 2012. Yna bu’n rhedeg swyddfa Maer Llundain am wyth mlynedd o 2008, wrth i’r ddinas lywio dirywiad economaidd, uwchraddio a datblygu systemau trafnidiaeth newydd, a chynnal y Gemau Olympaidd yn 2012.
Yn 2016 ymunodd Roisha â’r Heddlu Metropolitan fel Cyfarwyddwr Strategaeth a Llywodraethu, rôl a amrywiodd o wella’r ffordd y defnyddiodd y Met ddata i ddod â’r Farwnes Casey i mewn i adolygu diwylliant a safonau’r Met.
Mae Roisha yn byw yn Ne Llundain gyda'i thri o blant.