Cymru: cyfarfod dirprwyedig Awst 2023
Atodlen o Benderfyniadau
Reinstate The Bell Tower
Ymgeisydd: Neuadd Bentref Dinas Mawddwy
Crynodeb Prosiect: Y bwriad yw adfer ac ailosod cloch a achubwyd o'r tŷ mwy a safai ar safle neuadd y pentref.
Penderfyniad: Gwrthod
Prosiect Torgoch
Ymgeisydd: North Wales Rivers Trust Ltd
Crynodeb Prosiect: Mae'r cais hwn gan ymgeisydd tro cyntaf yn canolbwyntio ar achub y Torgoch, rhywogaeth â blaenoriaeth o ran bioamrywiaeth a geir mewn dim ond tri o lynnoedd Eryri, rhag difodiant yng Nghymru.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £249,300 (100%)
Heritage Village
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt
Crynodeb Prosiect: Nod yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt yw cyflwyno’r Pentref Sgiliau Treftadaeth fel rhan o’u digwyddiad deuddydd, o’r enw Ffair Helwriaeth Cymru. Trwy gyfres o weithdai a ‘sesiynau rhoi cynnig arni’, maent yn gobeithio arddangos sgiliau treftadaeth a hybu cyfleoedd cyflogaeth.
Penderfyniad: Gwrthod
Developing habitats and connecting with nature
Ymgeisydd: Black Lane C.P. School
Crynodeb Prosiect: Datblygu ardal ysgol goedwig o fewn tiroedd yr ysgol a fydd yn cynnwys plannu coed a phlanhigion ac ehangu’r ystod o gynefinoedd, a datblygu ardal pwll ac ymestyn yr ardal bywyd gwyllt i gynyddu’r fioamrywiaeth
Penderfyniad: Gwrthod
Cefn Morfydd
Ymgeisydd: The Woodland Trust
Crynodeb Prosiect: Gofynnir am arian i gaffael darn mawr o dir, ac am waith cychwynnol i'w agor i'r gymuned. Bydd yn ategu daliadau presennol yr ymgeisydd yn yr ardal, ac yn adeiladu ar y gwirfoddolwyr a'r gymuned sydd eisoes yn rhan ohono
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £250,000 (13.22%)
The Heritage of Andrew Logan: Research & Development (1)
Ymgeisydd: Andrew Logan Museum of Sculpture Limited
Crynodeb Prosiect: Mae Amgueddfa Gerfluniau Andrew Logan yn ceisio ehangu a gwella’r ddealltwriaeth o dreftadaeth Andrew Logan, trwy ei osod ef a’i waith yng nghyd-destun datblygiadau gwleidyddol ac economaidd, mudiadau cymdeithasol a diwylliannol a newidiadau moesol ac agweddol o’r 1960au hyd heddiw, gyda ffocws ar ei ddylanwad a'i ysbrydoliaeth ar gyfer y gymuned LHDTC+.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £141,508 ( 99.65%)
Hidden Stories
Ymgeisydd: Swansea MAD
Crynodeb Prosiect: Bydd ‘Hidden Stories’ yn gweithio gyda phobl yn Abertawe i hwyluso mynediad cyfartal i dreftadaeth a chymryd rhan ynddi er mwyn sicrhau bod profiadau a hanes llafar pobl sy’n ymwneud â democratiaeth yng Nghymru yn cael eu nodi, eu dogfennu a’u deall yn well.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £66,377 (79.58%)
Neath Canal Recovery Project
Ymgeisydd: Tŷ Banc Canal Group
Crynodeb Prosiect: Nod y prosiect hwn yw arddangos cydlyniant cymunedol y gamlas, cynyddu ymwybyddiaeth o Gamlas Nedd, a chynyddu capasiti sgiliau i gynnal y ddyfrffordd.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £96,850 (100%)
We are Wales
Ymgeisydd: Race Equality First Limited
Crynodeb prosiect: Bydd Race Equality First yn cyflwyno prosiect 2 flynedd yng Nghaerdydd a Chasnewydd sy’n casglu ffotograffau a gwrthrychau ac yn dogfennu straeon y 3 grŵp lleiafrifoedd ethnig mwyaf yng Nghymru o Dde Asia: cymunedau Indiaidd, Pacistanaidd a Bengalaidd yng Nghaerdydd a Chasnewydd, eu cyfraniadau at hanes Cymru a’u dylanwad ar ddiwylliant Cymru.
Penderfyniad: Gwrthod