
Cyn hynny roedd Richard yn Gyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau yn yr Awdurdod Ffrwythloni ac Embryoleg Dynol a'r Awdurdod Meinweoedd Dynol, rheolyddion iechyd ill dau a chyrff hyd braich yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Arweiniodd swyddogaethau cyllid a gwasanaethau corfforaethol y ddau sefydliad o fis Tachwedd 2016.
Mae Richard yn gyfrifydd rheoli siartredig ac yn was cyhoeddus drwy yrfa. Cymhwysodd fel cyfrifydd tra'n gweithio i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, lle lle y bu'n gwasanaethu'r Llu Awyr Brenhinol, catrodau'r Fyddin ac yn y ganolfan gorfforaethol. Mae Richard wedi gweithio mewn nifer o adrannau Llywodraeth y DU gan gynnwys DWP, Defra ac yn fwy diweddar y Weinyddiaeth Gyfiawnder lle’r oedd yn Rheolwr Cyllid arni.
Mae wedi treulio'r 10 mlynedd diwethaf yn gweithio yn y sector iechyd, fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Oxleas cyn ymgymryd â'i rôl flaenorol.