Tasglu Adolygiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Tasglu Adolygu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Dyma'r Tasglu sy'n goruchwylio ein Hadolygiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI).

Diweddarwyd y dudalen ar 27 Ionawr 2023

Nod yr Adolygiad, a lansiwyd ym mis Mehefin 2020, oedd nodi ffyrdd o sbarduno mwy o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y Gronfa Treftadaeth ac ar draws y sector treftadaeth.  

Roedd y Tasglu ar waith rhwng 2020 a 2022 ac roedd yn rhan o ystod eang o ymgynghori – yn fewnol ac yn allanol – i'n helpu i ddiffinio gweledigaeth uchelgeisiol o dreftadaeth gynhwysol i lywio ein gweithgareddau gweithredol a rhoi grantiau.

Mae adroddiad Adolygiad EDI, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2021, yn nodi ein canfyddiadau, y cynnydd hyd yma a'r camau gweithredu ar gyfer 2021-2022.

Maria Adebowale-Shwarte

Aelodau'r Tasglu 

Maria Adebowale-Schwarte (Cadeirydd)

Mae Maria yn yn strategydd lleoedd cynhwysol, Prif Swyddog Gweithredol Foundation for Future London, a Chyfarwyddwr sefydlu'r Prosiect Gofod Byw. Mae'n aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr y Gronfa Treftadaeth, ac yn Gadeirydd Pwyllgor De Ddwyrain Lloegr. Mae gan Maria dros 25 mlynedd o arbenigedd ymarferol a strategol mewn sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, gan ganolbwyntio ar greu lleoedd, treftadaeth, diwylliant a chyllid amgylcheddol a gwneud grantiau.

Baljeet Sandhu

 

Baljeet Sandhu MBE

Mae Baljeet Sandhu MBE yn gyfreithiwr hawliau dynol arobryn, yn addysgwr ac yn arloeswr y mudiad 'ecwiti gwybodaeth' byd-eang. Mae wedi cynllunio modelau ymarfer newid systemau llwyddiannus yn sectorau cyfreithiol, cymdeithasol a buddsoddi'r DU, ac mae'n arweinydd meddwl byd-eang ar werth profiad byw mewn gwaith effaith gymdeithasol ac amgylcheddol. Cafodd ei hanrhydeddu â Gwobr Ryngwladol DVF yn y Cenhedloedd Unedig yn 2017 ac yn ddiweddar sefydlodd y Ganolfan Arloesol ar gyfer Ecwiti Gwybodaeth.

 

Atul Patel

Atul Patel MBE

Mae gyrfa 30 mlynedd Atul yn cynnwys rolau fel Cyfarwyddwr Rheoleiddio yn y Gorfforaeth Dai a Dirprwy Gyfarwyddwr Uned Allgáu Cymdeithasol Swyddfa'r Cabinet. Bu'n Gadeirydd y Grŵp Cynghori ar Gydraddoldeb Hiliol yn yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol o 2001-2005. Penodwyd Atul yn Ymddiriedolwr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a'r Gronfa Treftadaeth yn 2011. Derbyniodd MBE yn 2018 am wasanaethau i dreftadaeth a'r gymuned yn Nwyrain Canolbarth Lloegr.

 

Seona Reid

Y Fonesig Seona Reid

Ar hyn o bryd, y Fonesig Seona yw Cadeirydd Theatr Genedlaethol yr Alban, Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol yr Alban y Cyngor Prydeinig ac yn aelod o fwrdd Uwchgynhadledd Ddiwylliannol Ryngwladol Tate a Chaeredin. Mae wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyngor Celfyddydau'r Alban, Cyfarwyddwr Ysgol Gelf Glasgow, Dirprwy Gadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chadeirydd ei Phwyllgor yn yr Alban. Dyfarnwyd DBE i'r Fonesig Seona yn 2014 am wasanaethau i'r diwydiannau creadigol.

 

Mukesh Sharma

Mukesh Sharma MBE

Mae Mukesh wedi arwain nifer o gwmnïau mawr yn ystod ei yrfa ym maes twristiaeth. Derbyniodd MBE yn 2016 am wasanaethau i'r diwydiant teithio yng Ngogledd Iwerddon, ac mae'n Ddirprwy Raglaw ar gyfer Bwrdeistref Sirol Belfast. Mae wedi arwain llawer o fentrau ledled Gogledd Iwerddon i hyrwyddo'r celfyddydau, cydlyniant cymunedol ac atal hiliaeth, sectoriaeth a throseddau casineb. Mae'n Gadeirydd Pwyllgor Gogledd Iwerddon y Gronfa Treftadaeth ac yn Ymddiriedolwr gogledd Iwerddon.

 

David Stocker

Athro David Stocker

Mae'r Athro David Stocker yn athro gwadd mewn Astudiaethau Canoloesol ym Mhrifysgol Leeds. Mae wedi gweithio yn y sector treftadaeth ers 1978 ac wedi dal swyddi gyda nifer o gyrff treftadaeth gan gynnwys English Heritage, ac wedi gwasanaethu ar nifer o Bwyllgorau'r Gronfa Treftadaeth ers 2013. Mae gan David – sy'n defnyddio cadair olwyn – ddiddordeb arbennig mewn agweddau ar hygyrchedd o fewn treftadaeth, ac mae wedi gwasanaethu ar bwyllgorau sy'n mynd i'r afael â'r materion hyn.

 

Joan Saddler

Joan Saddler OBE

Joan Saddler OBE yw Cyfarwyddwr Partneriaethau a Chydraddoldeb Cydffederasiwn y GIG, a chyn Gyfarwyddwr Cenedlaethol Materion Cleifion a Materion Cyhoeddus yn yr Adran Iechyd. Fel cyn Gadeirydd ymddiriedolaeth gofal sylfaenol ac ymddiriedolaeth iechyd meddwl Anweithredol, mae Joan yn dod â lens llywodraethu i'w gwaith, ynghyd â'i phrofiad fel Prif Weithredwr yn y sector cymunedol a gwirfoddol. Dyfarnwyd OBE i Joan am wasanaethau i Iechyd ac Amrywiaeth yn 2007. 

 

Dr Anjana Khatwa

Dr Anjana Khatwa

Mae Dr Anjana Khatwa yn wyddonydd, cyflwynydd ac ymgynghorydd sy'n arbenigo mewn dysgu ac ymgysylltu, datblygu cynnwys ac ymgorffori amrywiaeth a chynhwysiant mewn ymarfer busnes. Dyfarnwyd Gwobr Ddaearyddol RGS i Anjana, Canmoliaeth Arian gan y Gymdeithas Ddaearyddol ac roedd yn rownd derfynol Gwobrau Amrywiaeth Cenedlaethol 2020 fel Model Rôl Cadarnhaol ar gyfer Hil, Ffydd a Chrefydd. Mae'n Is-gadeirydd Cyngor Cydraddoldeb Hiliol Dorset ac mae ganddi BSc. mewn Gwyddor Daear a Ph.D. mewn Daearyddiaeth