Cronfa Argyfwng Treftadaeth i gefnogi costau adfer y sector

Cronfa Argyfwng Treftadaeth i gefnogi costau adfer y sector

Logo
Erbyn hyn gellir defnyddio grantiau'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth i helpu sefydliadau i ailagor ar ôl argyfwng coronafeirws (COVID-19), tra bod y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'i ymestyn.

Rydym wedi ehangu ein meini prawf Cronfa Argyfwng Treftadaeth gwerth £50miliwn i helpu sefydliadau treftadaeth i ailagor yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth.

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ymgeisio hefyd wedi'i ymestyn i ddydd Gwener 31 Gorffennaf.

"Rydym yn awyddus i'w helpu i gynllunio ar gyfer yr adferiad sydd mor hanfodol ar gyfer treftadaeth, ei phobl a'i chymunedau."

Ros Kerslake, Prif Weithredwraig Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Dywedodd Ros Kerslake, Prif Weithredwraig Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Mae’n parhau i fod yn gyfnod o newid mawr ac ansicrwydd i sefydliadau treftadaeth, ac rydyn ni’n meddwl amdanyn nhw ar hyn o bryd gan eu bod yn cymryd camau ansicr yn ôl i fyd sy'n newid yn gyflym.

 "Rydym yn awyddus i'w helpu i gynllunio ar gyfer yr adferiad sydd mor hanfodol ar gyfer treftadaeth, ei phobl a'i chymunedau."

Helpu'r sector i adfer

Gallwch wneud cais yn awr i ddefnyddio ein cyllid i helpu eich sefydliad i ailagor ac adfer o effeithiau pandemig coronafeirws (COVID-19).

Gallai hyn gynnwys adolygiadau strategol o fodelau busnes, cynlluniau gweithredu a chynlluniau busnes, neu fuddsoddiad i alluogi darparu gwasanaethau'n ddigidol. Gallech hefyd ddefnyddio'r arian i'ch helpu i reoli eich safle wrth ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol, er enghraifft:

  • Staff ychwanegol i helpu i reoli ciwiau
  • Offer diogelu personol (PPE) ar gyfer staff a gwirfoddolwyr
  • Hyfforddiant
  • Gwaith glanhau ychwanegol
  • Gweithredu dulliau talu digyswllt
  • Strwythurau dros dro i helpu reoli ymwelwyr fel ciwiau neu doiledau ychwanegol

Dysgwch fwy am sut i wneud cais ar ein tudalen ariannu. Gall eich timau lleol roi cyngor ar yr hyn y gallwn ei gefnogi a sut i wneud cais.

Cofiwch y gallai canllawiau'r Llywodraeth ar sut a phryd i ailagor amrywio ar draws y Deyrnas Unedig.

Terfyn amser estynedig

Erbyn hyn, mae gan sefydliadau tan ddydd Gwener 31 Gorffennaf  i wneud cais am y Gronfa Argyfwng Treftadaeth.

Gan ddefnyddio cyllid sy'n bosibl gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn helpu sefydliadau treftadaeth i oroesi effaith sylweddol epidemig coronafeirws (COVID-19) gyda grantiau o  £3,000-£50,000 a £50,000-£250,000.

Achub treftadaeth y genedl

Rydym yn falch ein bod eisoes wedi cefnogi cannoedd o sefydliadau treftadaeth ledled y DU i oroesi argyfwng coronafeirws (COVID-19) drwy'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth.

Mae'r rhain wedi cynnwys:

Ymddiriedolaeth Gerddi Hestercombe, Gwlad yr Haf – £122,000 

Caeodd yr Hestercombe Gardens ar 23 Mawrth ac roedd 55 allan o 63 o staff wedi’u ffyrlo. Mae grant y Gronfa Argyfwng Treftadaeth yn talu am bedwar mis o gostau gweithredu.

Oriel yr Amgueddfa, Llandudno, Gogledd Cymru – £31,400

Roedd y gwaith adeiladu wedi dod i ben oherwydd coronafeirws (COVID-19), ac nid oedd yr Amgueddfa'n gallu cwrdd â'i gynllun gwreiddiol i agor ym mis Mehefin. Bydd y grant yn helpu i gynnal yr Amgueddfa'n ariannol.

Parc Mynwent Tower Hamlets, Llundain – £11,900

Un o saith mynwentydd godidog Llundain, yn gartref i rywogaethau o wenynnod a gloÿnnod byw prin a ddiogelir. Mae'r grant yn cwmpasu gwaith brys i atal risg a diogelu bioamrywiaeth a threftadaeth adeiledig y safle.

Cymdeithas Rheilffordd Wensleydale – £50,000

Mae'r rheilffordd dreftadaeth yn y Dales Swydd Efrog wedi cau ers mis Mawrth a'i staff ar ffyrlo. Heb unrhyw wasanaethau trên yn rhedeg, nid yw'r rheilffordd wedi derbyn unrhyw o'i hincwm arferol. Mae'r grant yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu tri hyfforddwr ac i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw hanfodol.

Canolfan Adar Môr yr Alban, yr Alban – £50,000

Mae Canolfan Adar y Môr yn yr Alban yn elusen cadwraeth ac addysg forol sy'n cael ei chefnogi gan atyniad i ymwelwyr yng Ngogledd Berwick, yr Alban. Roedd colli'r incwm ymwelwyr yn syth yn golygu bod yr elusen ar fin cwympo. Bydd ein cyllid, ynghyd â'r cyllid ychwanegol a helpodd i ddatgloi, yn cefnogi'r elusen.

Cwmni Theatr IROKO, Llundain – £5,300

Mae Cwmni Theatr IROKO yn defnyddio theatr draddodiadol Affrica i wella addysg, iechyd a llesiant pobl o bob cefndir a chenedligrwydd. Bydd eu grant yn talu am orbenion a chynllunio strategol fel ymateb i'r pandemig.

Clifton House, Gogledd Belfast – £18,900

Gwasanaethai Clifton House, sy'n dyddio o 1774, fel tŷ tlawd ac ysbyty cyntaf y ddinas. Wynebodd cymdeithas elusennol Belfast golled sylweddol o incwm pan gaewyd yr adeilad i'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae'r tîm yn bwriadu darparu mynediad drwy sgyrsiau rhithwir a thaith rithwir.

< class="field--name-field-item-title accordion-title">
Nod ein Menter Sgiliau Digidol ar gyfer treftadaeth yw gwella sgiliau digidol a hyder ar draws holl sector treftadaeth y DU.

Dysgwch fwy, a chymerwch olwg ar ein llawlyfrau defnyddiol a chadwch le ar un o’n gweminar poblogaidd.

Nodwch cryfderau a gwendidau digidol eich sefydliad gan ddefnyddio ein harolwg Agweddau Digidol a Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth (DASH). Y dyddiad cau i gymryd rhan yw dydd Gwener 26 Mehefin.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...