Beth yw treftadaeth?
Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o'r gorffennol yr ydych chi'n ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Dyma fwy o wybodaeth am yr hyn y gallai hynny ei gynnwys.
O adeiladau hanesyddol, ein hetifeddiaeth ddiwydiannol a'r amgylchedd naturiol, i gasgliadau, traddodiadau, storïau a mwy - rydym yn cefnogi prosiectau o bob maint sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.
Y mathau o dreftadaeth a gefnogwn
Ariannu ar gyfer treftadaeth
Rydym yn cynnig grantiau o £10,000 hyd at £10miliwn ar gyfer prosiectau treftadaeth.
Mae'r holl benderfyniadau a wnawn yn canolbwyntio ar fframwaith wedi'i symleiddio o bedair egwyddor fuddsoddi: achub treftadaeth; diogelu'r amgylchedd; cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad; a chynaladwyedd sefydliadol.