Sgiliau Digidol ar gyfer Treftdaeth – wynebu her coronafeirws (COVID-19)
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd ein Menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth, a gynlluniwyd i helpu sefydliadau i ffynnu yn yr oes ddigidol.
Mae pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi gorfodi sefydliadau i ddeall a gwneud defnydd o ddigidol yn fwy taer nag erioed o'r blaen.
Oherwydd hyn, rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddiwallu'r anghenion newydd sy'n dod i'r amlwg yn y sector treftadaeth. Rydym hefyd am helpu sefydliadau i ddatblygu'r sgiliau a fydd yn creu eu gwydnwch yn yr hirdymor.
"Mae llawer o sefydliadau treftadaeth yn gorfod uwchsgilio'n gyflymach nag erioed o'r blaen."
Mae defnyddio digidol yn golygu bod staff, gwirfoddolwyr a chymunedau yn gallu parhau i gysylltu. Mae hefyd yn golygu bod llawer o sefydliadau treftadaeth yn gorfod uwchsgilio'n gyflymach nag erioed o'r blaen.
Beth yw ymateb digidol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol?
Byddwn yn gweithredu ar yr hyn y mae sefydliadau yn dweud wrthym y mae angen cymorth arnynt, ond yn addasu hyn wrth i anghenion newydd gael eu nodi ac wrth i'r sefyllfa newid.
Byddwn yn gweithio gyda'r sector i helpu i ddod o hyd i atebion gan gadw golwg ar y dyfodol – gan helpu i ddatblygu'r sgiliau a fydd yn adeiladu gwydnwch hirdymor.
Mae ein dull yn canolbwyntio ar ganfod yr hyn sydd ei angen ar sefydliadau, a chynllunio cymorth drwy ddysgu gan gymheiriaid a datblygu rhwydweithiau, a thrwy ddarparu adnoddau rhad ac am ddim, a fydd yn cael eu trwyddedu'n agored.
Byddwn yn parhau i gadw golwg ar y dyfodol drwy feithrin sgiliau a fydd yn helpu sefydliadau drwy'r argyfwng presennol ac i'r dyfodol.
Arolygu'r sector
Rydym yn gwahodd pob sefydliad sy'n gweithio ym maes treftadaeth i gofrestru nawr ar gyfer yr arolwg Agweddau Digidol a Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth (DASH), a gaiff ei arwain gan Timmus Ltd:
Cofrestru drwy gyfrwng y Gymraeg
Cofrestru drwy gyfrwng Saesneg
Gallwch roi gwybod i ni am anghenion cymorth digidol presennol eich sefydliad. Gallwch hefyd ddweud wrthym os yw eich sefydliad yn darparu cymorth sgiliau digidol am ddim i'r sector ar hyn o bryd neu os hoffech wneud hynny.
Bydd yr arolwg llawn ar agor rhwng dydd Llun 27 Ebrill a dydd Gwener 10 Gorffennaf. Bydd yn edrych ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys rhoi cynnwys ar-lein, cyfathrebu a chodi arian yn ddigidol, cydweithredu a gwaith grŵp, ac arfer digidol arloesol.
Gofynnwn mai dim ond un person o bob sefydliad sy'n cofrestru i ddechrau. Byddwn yn anfon dolen arferol i'r person yma i'w drosglwyddo i eraill yn eu sefydliad unwaith y bydd yr arolwg yn agor.
Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth hon?
Yn y lle cyntaf byddwn yn defnyddio'r hyn a ddywedwch wrthym i helpu i baru sefydliadau i gefnogi a llywio ein gwaith cynllunio. Bydd y Gronfa hefyd yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i grynhoi agweddau a sgiliau digidol ar draws y sector treftadaeth, nodi bylchau, a thynnu sylw at arferion gwych. Bydd sefydliadau'n cael eu data arolwg cryno eu hunain am ddim, a bydd adroddiad sector gyfan yn cael ei gyhoeddi ar y canfyddiadau ym mis Hydref.
Hyfforddiant a chymorth i sefydliadau treftadaeth
Yn gynharach eleni, rhoddwyd cyfanswm o bron £500,000 o grantiau i'r Lab Treftadaeth Ddigidol, dan arweiniad Cymdeithas Marchnata'r Celfyddydau, a Heritage Digital, sy'n cael ei redeg gan y Gynghrair Treftadaeth.
Mae'r ddau wedi diwygio eu cynlluniau gwreiddiol yng ngoleuni argyfwng coronafeirws (COVID-19). Byddwn yn rhannu gwybodaeth am sut i gymryd rhan drwy broses gofrestru arolwg DASH, a thrwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Y Lab Treftadaeth Ddigidol
Bydd cynnig y Lab Treftadaeth Ddigidol yn canolbwyntio ar:
- codi arian yn ddigidol
- marchnata digidol
- ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn ddigidol
- gweithio gyda chasgliadau ar-lein
Maent wedi cyflwyno eu hamserlen i gynnal digwyddiadau cychwynnol o 20 Ebrill 2020. Bydd y rhain yn gymysgedd o 'gymorthfeydd argyfwng' a gweithdai ar-lein.
O fis Medi 2020 byddant yn cynnal academi sgiliau digidol ar-lein. Bydd 4,000 o leoedd hyfforddi ar gael ynghyd ag amrywiaeth eang o adnoddau.
Treftadaeth Ddigidol
Bydd Treftadaeth Ddigidol yn canolbwyntio ar:
- cefnogi sefydliadau gyda marchnata digidol
- ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn ddigidol
- eiddo deallusol a diogelu data
- offer a phrosesau busnes digidol
Maent yn cynllunio ar gyfer rhyddhau canllawiau ac adnoddau digidol am ddim o Fehefin 2020. Bydd eu rhaglen ddigwyddiadau yn cael eu cynnal o Fedi 2020 – Gorffennaf 2021 ac yn cynnwys gweithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae'r rhaglen yn bwriadu cefnogi dros 700 o sefydliadau treftadaeth.
Arwain y sector
Bydd carfan gyntaf ein cwrs blaenllaw y sector, dan arweiniad Culture24, yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai.
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar-lein yn unig yn y lle cyntaf, gan roi'r sgiliau a'r hyder i arweinwyr y sector diwylliannol i adeiladu aeddfedrwydd a chapasiti digidol eu sefydliadau.
Bydd y cwrs yn dechrau ym mis Mai 2020 ac yn dod i ben yn gynnar yn 2021.
Bydd y prosiect yn nodi lle gall materion brys gael eu cefnogi gan ddigidol. Bydd hefyd yn cefnogi trawsnewid digidol er mwyn bod o fudd i sefydliadau am flynyddoedd i ddod.
Byddwn yn rhannu mewnwelediadau ac adnoddau ar hyd y ffordd.
Y Gronfa Hyder Digidol
Bydd y Gronfa Hyder Digidol yn cefnogi 20 o sefydliadau o'n 13 ardal ffocws, gyda mentora a chymorth un i un gan ymgynghorwyr ROSS. Bydd yn cael eu cynal rhwng Mehefin 2020, pan gyhoeddir y sefydliadau llwyddiannus, a Rhagfyr 2021.
Byddwn yn rhannu astudiaethau achos ar ffyrdd y gall sefydliadau ffynnu gan ddefnyddio digidol.
Cadwch mewn cysylltiad
Sicrhewch nad ydych chi'n colli unrhyw gyhoeddiadau pellach drwy ymuno â'n cylchlythyr a'n dilyn ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn ac Instagram.