Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: £100,000 i £250,000
Ariannu Grantiau o £100,000 i £250,000
Pwy all ymgeisio
Gallwch ymgeisio am grant o £100,000 i £250,000 os ydych yn:
- sefydliad di-elw
- partneriaeth dan arweiniad sefydliad di-elw
Sut i ymgeisio
Darllenwch y canllawiau hyn cyn i chi wneud cais am grant. Mae'r canllawiau'n dweud mwy wrthych chi am y rhaglen grant £100,000 i £250,000 a'r mathau o brosiectau y gallwn ni eu hariannu.
Os hoffech gymorth i ddatblygu eich syniad cyn i chi ddechrau eich cais llawn, gallwch gyflwyno ffurflen ymholiad prosiect.
-
Darllenwch y dudalen yma
Dilynwch y camau hyn a darllenwch y dudalen gyfan. Yn gyntaf, bydd angen i chi:
-
Creu cyfrif
Er mwyn ymgeisio bydd angen i chi ddefnyddio ein porth ymgeisio, os nad oes gennych gyfrif eto, bydd angen i chi:
-
Penderfynu ar bryd i ymgeisio
Mae'r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais wedi'u pennu ymlaen llaw.
Cyflwynwch eich cais llawn drwy ein porth ymgeisio ar-lein erbyn:
- 19 Tachwedd 2019, hanner dydd (12pm) i dderbyn penderfyniad erbyn diwedd Mawrth 2020
- 2 Mawrth 2020, hanner dydd (12pm) i dderbyn penderfyniad erbyn diwedd Mehefin 2020
- 1 Mehefin 2020, hanner dydd (12pm) i dderbyn penderfyniad erbyn diwedd Medi 2020
- 1 Medi 2020, hanner dydd (12pm) i dderbyn penderfyniad erbyn diwedd Rhagfyr 2020
- 23 Tachwedd 2020, hanner dydd (12pm) i dderbyn penderfyniad erbyn diwedd Mawrth 2021
Sicrhewch bod dyddiad dechrau eich prosiect yn ddyddiad hwyrach na dyddiad y penderfyniad.
-
Cynllunio eich cyfraniad ariannol
Os ydych yn gwneud cais am rhwng £100,000 a £250,000 bydd angen i chi gyfrannu o leiaf 5% o gostau eich prosiect.
Rydym yn disgrifio'r cyfraniad yma fel 'cyllid partneriaeth' ac nid oes rhaid iddo fod ar ffurf arian parod. Gweler ein canllawiau ymgeisio am fwy o fanylion.
-
Ymgeisio am grant
Byddwn yn asesu eich cais o fewn 12 wythnos ar ôl i chi ei gyflwyno. Ar ôl i ni asesu eich prosiect, caiff ei neilltuo i gyfarfod Pwyllgor chwarterol ar gyfer penderfyniad ffurfiol.
Dogfennau i'ch cynorthwyo i ymgeisio
- Canllawiau ymgeisio £10,000 i £250,000
Gwybodaeth a chyngor ar sut i ysgrifennu cynnig cryf. - Nodiadau cymorth i ymgeisio
Gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i gwblhau ffurflen gais ar-lein. - Enghraifft o ffurflen ymholi prosiect
Ffordd dda o gael adborth gennym cyn i chi ddechrau gweithio ar gais llawn - Templedi cynlluniau prosiect
Templedi ar gyfer y ffordd rydym yn eich argymell i greu cynllun ar gyfer eich prosiect - Telerau grant safonol
Ein telerau ac amodau ar gyfer grantiau o £10,000 i £100,000. - Canllawiau arferion da
I'ch helpu i gynllunio a darparu eich prosiect treftadaeth. - Adennill costau'n llawn
Os ydych yn sefydliad yn y sector gwirfoddol, gallem helpu i dalu am rywfaint o'ch costau gorbenion.
- Canllawiau ymgeisio £10,000 i £250,000