Fe'i penodwyd i'r rôl hon ar ôl gwasanaethu am saith mlynedd fel cadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth. Mae’r fenter hon gan Lywodraeth Yr Alban yn dynodi ac yn buddsoddi mewn casgliadau o bwysigrwydd cenedlaethol nad ydynt yn cael eu cadw gan yr amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol.
Mae Ray wedi dal sawl penodiad cyhoeddus yn y sector diwylliant gan gynnwys Ymddiriedolwr a Dirprwy Gadeirydd Orielau Cenedlaethol Yr Alban, Cadeirydd Scottish Screen a Dirprwy Gadeirydd Cyngor Celfyddydau’r Alban.
Ym mis Ebrill eleni cwblhaodd Ray ddau dymor yn y swydd fel Cadeirydd Bwrdd Cymorth Cyfreithiol Yr Alban.
Graddiodd Ray gyda graddau MA, LLB ac MBA o Brifysgol Glasgow a dechreuodd ei gyrfa fel cyfreithiwr mewn practis preifat. Yna cymerodd swyddi uwch reoli yn Scottish Enterprise, lle bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr, a Banc Yr Alban lle bu'n uwch gyfarwyddwr ac yn Bennaeth y Grŵp Buddsoddi Cymunedol.
Mae Ray yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Hopetoun House ac yn Ymddiriedolwr Tatŵ Milwrol Brenhinol Caeredin.