Pwyllgorau
Pwy yw ein pwyllgorau?
Mae gennym chwe phwyllgor – un ar gyfer pob ardal yn Lloegr, yn ogystal â Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Maent yn cynnwys pobl leol sy'n angerddol am y dreftadaeth yn eich ardal ac yn cael eu recriwtio drwy hysbyseb agored.
Beth mae ein pwyllgorau'n ei wneud?
Mae ein pwyllgorau'n gwneud penderfyniadau ar geisiadau am grantiau rhwng £250,000 a £5miliwn.
Maent hefyd yn argymell y blaenoriaethau ariannu ac yn rhoi persbectif lleol hanfodol i'r Bwrdd.
Mae ein pwyllgorau'n cyfarfod bob tri mis i wneud penderfyniadau ar grantiau yn eu hardaloedd lleol.
Trafodir ceisiadau am grantiau o hyd at £250,000 mewn cyfarfodydd cynghori misol a phenderfyniad a wneir gan y Pennaeth Buddsoddi lleol.