Ymunwch â’n Pwyllgorau i Gymru a Gogledd Iwerddon
"Mae'n fraint wirioneddol i fod yn cefnogi gwaith sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i gymunedau, yr amgylchedd, bywyd gwyllt a llawer mwy o agweddau ar ein treftadaeth."
Mukesh Sharma, Aelod presennol o Bwyllgor Gogledd Iwerddon
Arweiniad i’n harian
Drwy’r cyfle cyffrous yma, byddwch yn ein helpu i lywio cwrs treftadaeth yng Nghymru neu Ogledd Iwerddon.
Byddwch yn defnyddio eich arbenigedd i lywio penderfyniadau ar ein grantiau rhwng £250,000 a £5 miliwn a chadw golwg ar grantiau llai.
Nigel Clubb, Aelod o Bwyllgor Cymru (2014-2020): “"Dw i wedi ei chael hi'n hynod ddiddorol helpu i benderfynu ar y prosiectau a fydd yn trawsnewid treftadaeth i'r cynulleidfaoedd ehangaf posibl. Rhaid i Aelodau'r Pwyllgor ystyried sut orau y gallai buddsoddi mewn treftadaeth fynd i'r afael â phwysau cymdeithasol ac economaidd unigryw y cymunedau yn y gwledydd y maent yn eu goruchwylio."
"Rwyf wedi cael mwy o fewnwelediad i'r berthynas bosibl rhwng pobl a'u treftadaeth nag mewn unrhyw rôl arall."
Nigel Clubb, Aelod o Bwyllgor Cymru (2014-2020)
Gwneud gwahaniaeth i gymunedau a threftadaeth
Byddwch hefyd yn darganfod amrywiaeth o dreftadaeth ryfeddol a diddorol, gan gynnwys tirweddau arbennig, tirnodau eiconig, trysorau lleol ac atgofion cymunedol.
"Rwy'n dysgu'n gyson am ehangder a dyfnder treftadaeth ledled Gogledd Iwerddon."
Angelina Fusco, Aelod presennol o Bwyllgor Gogledd Iwerddon
Rydyn ni’n chwilio am aelodau Pwyllgor sy'n angerddol dros roi pobl wrth galon y dreftadaeth yma.
"Rwy'n ystyried fy hun mor lwcus fy mod wedi cwrdd â chymaint o bobl sy'n gweithio mor galed i rannu eu hangerdd dros dreftadaeth drwy'r prosiectau rydym wedi'u hariannu."
Megan De Silva, Aelod o Bwyllgor Cymru (2013-2020)
Beth rydyn ni’n chwilio amdano
Gwneir penodiadau ar sail sgiliau a galluoedd unigolyn, ond rydym yn ystyried sut y byddai pob ymgeisydd yn ategu sgiliau a gwybodaeth ardal aelodau presennol y pwyllgor.
Ar gyfer y rolau hyn, rydyn ni’n chwilio’n arbennig am y canlynol:
Cymru
-
Profiad o weithio ym maes amrywiaeth a chynhwysiant
-
Gwybodaeth am y sector elusennol a gwirfoddol cymunedol a'i heriau a'i gyfleoedd presennol
-
O leiaf un aelod i fod yn siaradwr Cymraeg rhugl, hyderus i gynrychioli'r Gronfa yn y cyfryngau yng Nghymru ac mewn digwyddiadau allanol
Gogledd Iwerddon
-
Arbenigedd yn y sector treftadaeth naturiol a bioamrywiaeth
-
Arbenigedd mewn treftadaeth adeiledig neu anniriaethol
-
Profiad o weithio ym maes amrywiaeth a chynhwysiant
Byddwch yn cynrychioli'r Gronfa mewn agoriadau a digwyddiadau, gan weithredu fel eiriolwr ar gyfer gwerth treftadaeth i fywyd modern..