Rydym am wneud rhagor i ddileu hiliaeth a hybu mwy o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn treftadaeth

Rydym am wneud rhagor i ddileu hiliaeth a hybu mwy o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn treftadaeth

The National Lottery Heritage Fund logo
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn lansio adolygiad eang o'i hagwedd at amrywiaeth a chynhwysiant.

Dywedodd y Prif Weithredwraig, Ros Kerslake, fod y protestiadau grymus sy'n digwydd ar draws y byd, gan gynnwys y DU, sy'n galw am ail-archwilio a gwneud yn iawn am anghydraddoldeb hiliol, wedi gwneud i ni fyfyrio ar ymdrechion y Gronfa a chyflymu'r newid.

"Fel cyllidwr mwyaf treftadaeth y DU, a ydym yn gwneud digon i agor treftadaeth i ystod ehangach o bobl?"

Prif Weithredwraig, Ros Kerslake

Ros Kerslake
Llun: Prif Weithredwraig Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol Ros Kerslake

 

"Fel cyllidwr mwyaf treftadaeth y DU, a ydym yn gwneud digon i agor treftadaeth i ystod ehangach o bobl?

"Mae cynhwysiant wedi bod yn ffocws i'r sefydliad ers blynyddoedd lawer ac yn 2019 mabwysiadwyd canlyniad cynhwysiant gorfodol ar gyfer ein grantiau a datganiad cydraddoldeb y gweithlu wedi'i ddiweddaru. Mae'r rhain yn gamau i'r cyfeiriad iawn, ond credaf fod angen inni wneud llawer mwy."

Lansio tasglu

Fel rhan o'r adolygiad, byddwn yn ymgynghori'n eang yn fewnol ac yn allanol   a byddwn yn gwrando ac yn gweithredu ar yr hyn a ddysgwn.

Maria Adebowale-Schwarte
Maria Adebowale-Schwarte

 

 

Bydd Maria Adebowale-Schwarte yn cadeirio tasglu i oruchwylio'r adolygiad. Mae Maria wedi bod yn Ymddiriedolwr yn y Gronfa ers 2018. Mae hi'n dod â 25 mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau treftadaeth, yr amgylchedd a grantiau, gan ganolbwyntio ar le cynhwysol a strategaeth adnewyddu trefol. 

Meddai Maria: "fel Ros, mae'r digwyddiadau sy'n datblygu ledled y byd yn dilyn marwolaeth George Floyd wedi effeithio'n ddwfn arnaf. Mae wedi rhoi cyfle i lawer o unigolion a sefydliadau feddwl a ydynt yn rhan o'r broblem ac yn bwysicach, a ydynt am fod yn rhan o'r ateb. "

"Rwy'n croesawu penderfyniad y Gronfa i gymryd camau pendant i sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu hintegreiddio'n well, o fewn y sefydliad ac fel ariannwr."

Maria Adebowale-Schwarte

"Rwy'n croesawu penderfyniad y Gronfa i roi'r adolygiad yma ar waith ac i gymryd camau pendant i sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu hintegreiddio'n well, o fewn y sefydliad ac fel ariannwr."

Bydd y tasglu yn adrodd i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Creu cymdeithas decach

Dywedodd Ros: "Mae treftadaeth gyda chynhwysiant wrth ei chalon yn hynod rymus o ran dod â phobl at ei gilydd a chreu cymdeithas decach i bawb."  

"Rwy'n falch o'r gwahaniaeth rydyn ni eisoes wedi gallu ei wneud – o fuddsoddi £4m i sefydlu'r archifau diwylliannol DU, cadw straeon o Genhedlaeth Windrush a phrofiadau pobl o dad-droseddoli cyfunrywioldeb yng Ngogledd Iwerddon, i ariannu prosiectau treftadaeth sy'n helpu pobl i oresgyn unigedd a gwella eu hiechyd meddwl  – ond rwy'n benderfynol y byddwn yn gwneud mwy.

"Mae'r adolygiad yma’n ymrwymiad i adeiladu amgylchedd sy'n rhydd rhag hiliaeth ac anghydraddoldeb."

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...