£3.78 miliwn i rywogaethau a warchodir a safleoedd natur ledled Cymru
Mae 17 prosiect yn derbyn cyllid i helpu rhwydwaith Cymru o safleoedd morol a thir gwarchodedig i ffynnu, ac annog cymunedau lleol i gymryd rhan mewn cadwraeth natur.
Rydyn yn rhedeg Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau) ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r rhaglen yn cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau fydd yn cefnogi adferiad byd natur.
Cadwraeth ystlumod
Mae prosiect ‘Gobaith Coetir’ yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod yng Ngwynedd yn derbyn £227,603.
Bydd y grant yn ariannu arolygon monitro ystlumod yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirionnydd. Mae'r ardal yn Nyffryn Ffestiniog yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) coetir.
Adfer Wystrys
Mae Cymdeithas Sŵolegol Llundain a Phrifysgol Bangor wedi derbyn £249,919 i redeg y prosiect ‘Adfer Wystrys Gwyllt i Fae Conwy’ ar arfordir Gogledd Cymru.
Nod y prosiect dwy flynedd yw adfer cynefin wystrys brodorol Ewropeaidd a chymuned o organebau cysylltiedig.
Cynefionedd cacwn
Mae prosiect ‘Cysylltu Arfordir Sir Gaerfyrddin’ yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn yn derbyn £222,272.
Bydd y prosiect yn cynnal arolygon i roi darlun cywir o boblogaethau a chynefin ar gyfer rhywogaethau cacwn yn Sir Gaerfyrddin.
Mae ariannu prosiectau treftadaeth naturiol sy’n helpu i fynd i’r afael ag effeithiau’r argyfwng hinsawdd a chefnogi adferiad byd natur yn flaenoriaeth allweddol i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.
Andrew White, Cyfarrwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae ariannu prosiectau treftadaeth naturiol sy’n helpu i fynd i’r afael ag effeithiau’r argyfwng hinsawdd a chefnogi adferiad byd natur yn flaenoriaeth allweddol i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.
“O fioddiogelwch adar môr, dileu Jac y Neidiwr a chanclwm Japan, i ailgyflwyno wystrys gwyllt, bydd y grantiau hyn yn helpu i atal dirywiad pellach mewn rhywogaethau a chynefinoedd, yn gwella’r gallu i addasu i’r argyfwng hinsawdd ac yn dod â buddion iechyd uniongyrchol i’r bobl a’r cymunedau dan sylw. ”
Gwella ansawdd a gwydnwch safleoedd gwarchodedig
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Bydd y cyllid hwn yn helpu i hwyluso’r dull Tîm Cymru sydd ei angen i wella cyflwr a gwydnwch ein rhwydwaith safleoedd gwarchodedig, yn ogystal â chreu rhwydweithiau o bobl sy’n ymgysylltu’n weithredol â byd natur.
“Rwy’n falch o weld yr ystod eang o brosiectau daearol, dŵr croyw a morol a fydd yn gwneud cyfraniad pwysig at gyflawni ein Rhaglen Rhwydweithiau Natur gan hyrwyddo camau gweithredu i’n helpu i gyrraedd ein targed 30 wrth 30 [gwarchod 30% o dir a môr trwy 2030] a dod yn natur gadarnhaol. Edrychaf ymlaen at fonitro cynnydd y prosiectau hyn a chyhoeddi rhagor o gyllid ar gyfer ystod o brosiectau mawr maes o law o dan y Gronfa Rhwydweithiau Natur.”
Darganfod mwy
Gweler y rhestr lawn o brosiectau y dyfarnwyd cyllid iddynt.
Rydyn ni eisiau i'r holl brosiectau rydyn ni'n eu hariannu leihau effeithiau'r argyfwng hinsawdd. Dysgwch sut i ystyried cynaliadwyedd amgylcheddol yn eich prosiect.