Gallwch wneud cais nawr am grantiau hyd at £10 miliwn
Pan lansiwyd Treftadaeth 2033, ein strategaeth 10 mlynedd newydd, bu i ni gydnabod fod ein trothwy £5m ar gyfer grantiau - a bennwyd dros 20 mlynedd yn ôl - yn cyfyngu ar gyfleoedd i rai mentrau gyflwyno cais.
Rydym am fuddsoddi mewn prosiectau treftadaeth mwy uchelgeisiol sy'n rhannu ein cred yng ngrym treftadaeth i ddod â phobl ynghyd, meithrin balchder yn eu lle a chysylltu â'r gorffennol.
Mae 2023–2024 yn flwyddyn bontio cyn gweithredu Treftadaeth 2033 yn llawn. Byddwn yn gwneud newidiadau i'n dull gweithredu fesul cam. Y newid cyntaf - o heddiw - yw cynyddu'r swm y gallwch wneud cais amdano i £10m.
Rydym am gefnogi'r prosiectau treftadaeth gorau, mwyaf uchelgeisiol ac arloesol ar draws y DU. Gwyddom fod chwyddiant a'r argyfwng costau byw yn gwneud hynny'n anodd o dan ein trothwy presennol.
Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Sut i wneud cais
Bydd y broses ymgeisio a gwneud penderfyniadau yn aros yr un peth â'n grantiau blaenorol o £250,000 i £5m. Bydd ceisiadau a dderbynnir eleni yn cael eu hasesu ar feini prawf ein Fframwaith Ariannu Strategol 2019-2024 presennol.
Fodd bynnag, oherwydd y llinellau amser sy'n gysylltiedig â datblygu prosiectau ar y raddfa hon, byddwn hefyd yn gofyn i chi ystyried ein hegwyddorion buddsoddi Treftadaeth 2033 newydd:
Bydd angen i chi gyflwyno dogfen ategol o 500 gair neu lai yn amlinellu sut y bydd eich prosiect yn ymateb i'r pedair egwyddor.
Ceisio uchelgais ac arloesedd
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Rydym am gefnogi'r prosiectau treftadaeth gorau, mwyaf uchelgeisiol ac arloesol ar draws y DU. Gwyddom fod chwyddiant a'r argyfwng costau byw yn gwneud hynny'n anodd o dan ein trothwy presennol.
"Mae cynyddu ein grantiau i £10m yn golygu y gallwn gefnogi prosiectau ar raddfa fwy sy'n cyrraedd ymhellach, a chyflwyno ein gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth ac i'w chynnal ar gyfer pawb yn y dyfodol.
"Mae'n bosib hefyd y byddwn yn ystyried buddsoddi uwchlaw'r trothwy hwn ar gyfer prosiectau treftadaeth gwirioneddol eithriadol.”
Y camau nesaf
Bwrw golwg ar ein harweiniad ymgeisio ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol rhwng £250,000 a £10m, a chysylltwch â'ch swyddfa leol os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.
Mae Treftadaeth 2033 yn nodi'n gryno ein hegwyddorion a'n huchelgeisiau trosgynnol ar gyfer y deng mlynedd nesaf. Ym mis Gorffennaf, byddwn yn rhyddhau'r cyntaf o gyfres o gynlluniau cyflwyno a fydd yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch sut y byddwn yn buddsoddi arian y Loteri Genedlaethol yn y blynyddoedd i ddod. Tan hynny, gofynnir i chi barhau i wneud ceisiadau am ariannu gan ddefnyddio ein harweiniad a'n canlyniadau presennol.