Cyllid prosiect newydd a benthyciadau i gefnogi gwydnwch y sector
Mae'r arian yma gan y Loteri Genedlaethol yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi sector treftadaeth y DU i ymateb i effeithiau coronafeirws (COVID-19), i addasu a ffynnu eto.
Bydd cyllid y prosiect – ar gyfer grantiau rhwng £3,000 a £100,000 – yn rhoi cymorth ariannol i sefydliadau sy'n gweithio gyda threftadaeth i adeiladu eu gwydnwch.
Mae ein benthyciadau di-log newydd – sydd ar gael am symiau rhwng £50,000 a £250,000 – wedi'u hanelu at sefydliadau sy'n ceisio ailgychwyn a datblygu eu potensial i gynhyrchu incwm.
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Ailagor cyllid prosiectau yw’r cam cyntaf o ailddechrau ein Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae'n dangos ein bod yn dychwelyd i'n busnes craidd, ond nid ydym yn dychwelyd i fusnes fel arfer.
Rydym yn canolbwyntio'n bennaf ar wydnwch a chefnogi sefydliadau treftadaeth di-elw a'r sector cyhoeddus ac awdurdodau lleol drwy'r argyfwng COVID-19 sy’n parhau o hyd.
Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau neu bartneriaethau gyda phrosiectau sy'n cael eu harwain gan a/neu sy'n ymgysylltu â grwpiau amrywiol.
Mae gennym gyllideb o £10miliwn yn ystod y cam cyntaf yma. Bydd y cyfarfod penderfynu cyntaf yn cael ei gynnal ganol mis Ionawr.
Bydd ein penderfynwyr yn blaenoriaethu ceisiadau gan y rhai nad ydynt wedi derbyn cyllid drwy ein Cronfa Argyfwng Treftadaeth neu gronfeydd adfer y llywodraeth ar gyfer treftadaeth a diwylliant.
Archwiliwch y canllawiau ymgeisio i weld a yw'r cyllid hwn yn addas i chi.
Benthyciadau Adfer a Gwydnwch Treftadaeth
Yn ein Fframwaith Ariannu Strategol 2019-2024, gwnaethom nodi uchelgeisiau i ddatblygu ymyriadau cyllid ad-daladwy.
Mae cyllid ad-daladwy nid yn unig yn gwneud y mwyaf o'n heffaith drwy ailgylchu rhywfaint o'n hincwm, ond mae buddsoddiad cymdeithasol a benthyciadau fel hyn yn helpu'r sector treftadaeth i arallgyfeirio incwm, cryfhau modelau busnes a dod yn fwy gwydn.
Mae gennym gyllideb o £1.2m ar gyfer ein cynllun peilot benthyciadau. Rydym yn cynnig yr arian ar sail llog o 0%, heb ffi trefnu, a gwyliau talu o 12 mis. Yna bydd gan dderbynwyr hyd at bum mlynedd i ad-dalu'r benthyciad.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn:
- sefydliadau dielw
- derbynwyr presennol neu flaenorol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol neu grantiau Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol dros £10,000
- busnesau sydd â modelau busnes mentrus nad ydynt yn dibynnu ar grantiau a rhoddion yn unig
Dysgwch fwy yn ein canllawiau ar gyfer ceisiadau am fenthyciadau. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Chwefror 2021.
Gyda'n gilydd tuag at adferiad
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein cymuned dreftadaeth i wella o effeithiau'r pandemig.
Yn ogystal â'r cyhoeddiad heddiw, yr ydym wedi targedu rhaglenni sy'n agored i sefydliadau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. Dysgwch fwy ar ein tudalen ariannu.
O fis Chwefror 2021, byddwn yn ailddechrau derbyn ceisiadau am Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol o £100,000-£250,000 a £250,000-£5m
Mae cyfleoedd pellach i sefydliadau treftadaeth ddysgu sgiliau newydd, meithrin gallu a chryfhau cydnerthedd ar gael drwy ein Mentrau Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth a chymorth busnes a datblygu menter.