Cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer Amgueddfa’r Flwyddyn 2019
Mae un ar bymtheg o enillwyr blaenorol Amgueddfa'r Flwyddyn (Gwobr y Gronfa Gelf a gwobr Gulbenkin gynt) wedi'u hariannu gan y Loteri Genedlaethol.
Bydd enillydd y wobr o £100,000 eleni yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth ar 3 Gorffennaf. Gallwch ddilyn digwyddiadau drwy ddilyn yr hashnod #museumoftheyear. Cewch ragor o wybodaeth am Amgueddfa’r Flwyddyn 2019 yma.
Amgueddfeydd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol sydd wedi cyrraedd y rhestr fer
HMS Caroline, Belfast
HMS Caroline yw'r llong bleser ysgafn Prydeinig olaf sy'n weddill o’r Rhyfel Byd Cyntaf ac unig oroeswr y Llynges Frenhinol o Frwydr Jutland. Derbyniodd y prosiect helaeth dros £14miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i warchod ac adfer y llong ar ôl iddi gael ei hachub rhag sgrap, a gwblhawyd yn 2018.
Amgueddfa Pitt Rivers, Rhydychen
Yn gartref i un o'r casgliadau mwyaf arwyddocaol o anthropoleg ac archaeoleg, mae Amgueddfa Pitt Rivers, wedi cymryd dull arloesol o annog ymwelwyr i gwestiynu'r gwrthrychau y maen nhw’n eu gweld yn cael eu harddangos mewn cyfres o raglenni. Derbyniodd eu rhaglen 'No Binaries' sy’n galw am ymatebion queer i gasgliadau'r Amgueddfa i herio rhagfarnau ac i ddathlu amrywiaeth, arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Cafodd Amgueddfa Werin Sain Ffagan ei hailwampio gwerth miliynau o bunnoedd y llynedd, a derbyniodd £12.5m o arian y Loteri Genedlaethol – y grant mwyaf a ddyfarnwyd gan y Gronfa yng Nghymru erioed. Erbyn hyn mae gan Sain Ffagan orielau a mannau gweithdy newydd sy'n caniatáu iddi weithio tuag at ei nod o greu hanes 'gyda' yn hytrach nag 'ar gyfer' pobl.
V&A Dundee
Ar ôl 11 mlynedd o gynllunio ac adeiladu, agorodd V&A Dundee ei drysau ym mis Medi 2018 i ddod yn Amgueddfa dylunio gyntaf y DU y tu allan i Lundain. Diolch yn rhannol i £14.1m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae'r Amgueddfa wedi croesawu mwy na 500,000 o ymwelwyr ers iddi agor.