Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn datgelu cynlluniau ar gyfer treftadaeth Cymru
Rydym wedi ymgysylltu gyda dros 13,000 o bobl o ledled y DU, gan gynnwys chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a sefydliadau treftadaeth ar ein blaenoriaethau am y pum mlynedd nesaf fel prif ariannwr treftadaeth yn y DU.
Ymhlith y safbwyntiau a gasglwyd roedd llawer o gefnogaeth i ehangder y gwaith treftadaeth rydym yn ei gefnogi a galw cyson am wneud mwy o benderfyniadau grantiau yn lleol.
Mae elfennau allweddol eraill ein dull newydd yn cynnwys:
- ffocws mawr ar natur, cymunedau, ac ar sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau treftadaeth – y tair prif flaenoriaeth ar gyfer pobl a ymatebodd i'n hymgynghoriad
- ariannu symlach, hwylus a mwy effeithlon
- modelau buddsoddi newydd, yn symud y tu hwnt i grantiau i gynnwys benthyciadau a phartneriaethau, wedi'u cynllunio i ddenu eraill i fuddsoddi arian ochr yn ochr â’r Loteri Genedlaethol
- mwy o gefnogaeth i ddulliau masnachol, cynaliadwy i fynd i'r afael â threftadaeth sydd mewn perygl o gael ei golli;
- buddsoddiad a chymorth i helpu sefydliadau treftadaeth fod yn fwy cynaliadwy yn ariannol
- gofyniad i bob prosiect treftadaeth sy'n derbyn arian i fod yn eco-gyfeillgar
- mwy o gyllid a chymorth ar gyfer y cymunedau sydd wedi’u tangyllido fwyaf a’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghastell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf
- cymorth parhaus ar gyfer prosiectau eiconig, ar raddfa fawr dros £5m
Mae'r cynlluniau hyn yn cyd-daro â golwg newydd sbon ar gyfer ein sefydliad. Mae enw a hunaniaeth newydd sbon - Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol - wedi’u dylunio i helpu chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ddeall yn well y gwahaniaeth maen nhw’n eu wneud wrth brynu tocyn. Mae’r newid hwn yn pwysleisio’r uchelgais i weld enillion i achosion da yn tyfu.
Yng Nghymru nodwyd dwy ardal sy’n cael eu tangyllido ac sydd â lefelau uchel o amddifadedd, Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, a byddant nawr yn cael mwy o gymorth i ddatblygu eu ceisiadau a bydd arian ychwanegol ar gael i helpu prosiectau yn yr ardaloedd hynny.
Ers ein sefydlu, rydym wedi dosbarthu’n agos at £400 miliwn yng Nghymru i dros 2,600 o brosiectau.
Ac mae ein hymchwil wedi canfod bod chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn awyddus i wybod mwy am sut mae eu harian yn cael ei ddefnyddio, felly yn y dyfodol bydd gofyn i bob sefydliad sy’n derbyn arian feddwl am sut y bydd chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn cael eu diolch, eu cydnabod a’u gwahodd i gymryd rhan yn eu gwaith.