Pecyn Cymorth Ecwiti Hiliol mewn Natur
Atodiad | Maint |
---|---|
Racial equity in nature toolkit | 2.33 MB |
Pecyn cymorth ecwiti hiliol ym myd natur | 3.64 MB |
Rydym wedi creu'r pecyn cymorth yma i helpu sefydliadau treftadaeth naturiol i ddatblygu dull cynhwysol a theg o recriwtio pobl ar ddechrau eu gyrfaoedd. Canolbwyntir yn benodol ar bobl ifanc 18-25 oed o gymunedau ethnig amrywiol.
Gall helpu unrhyw un sy'n awyddus i:
- recriwtio a hyfforddi sylfaen o wirfoddolwyr mwy amrywiol
- darparu lleoliadau gwaith a hyfforddiant sgiliau, yn enwedig y rhai sydd wedi'u hanelu at dalent lefel mynediad a/neu heb eu gwasanaethu'n ddigonol
- adeiladu a chryfhau cydnerthedd a llywodraethu sefydliadol
Anghydraddoldebau mynediad
Dim ond 3.1% o weithlu sector yr amgylchedd yw staff o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
Mae effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar ragolygon cyflogaeth pobl ifanc wedi ehangu ymhellach y bylchau a'r prinder sgiliau presennol yn y DU.
Gobeithiwn y bydd y pecyn cymorth hwn yn helpu:
- y sector treftadaeth naturiol i fynd i'r afael â'r materion rhyng-gysylltiedig hyn
- pobl ifanc o gefndiroedd ethnig amrywiol yn cael cyfleoedd yn y sector yma
Sut y gwnaethom greu'r pecyn cymorth
Mae'r pecyn cymorth wedi'i ddatblygu a'i lywio gan fewnwelediadau a gasglwyd drwy gyfweliadau rhithwir gyda nifer o brosiectau, sefydliadau a phartneriaid amgylcheddol rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2021.
Buom yn siarad â phobl sy'n gweithio'n galed i wella mynediad i sector yr amgylchedd, yn benodol ar gyfer pobl ifanc a chymunedau ethnig amrywiol.
Dechrau arni
Lawrlwythwch y pecyn cymorth o'r dudalen hon i ddechrau. Bydd fersiwn Cymraeg o'r pecyn cymorth ar gael cyn bo hir.