Amgueddfeydd yn ail-agor ar Ddiwrnod Rhyngwladol yr Amgueddfeydd
![People sitting at tables with modern displays of musical instruments](/sites/default/files/styles/main_image_desktop/public/media/imgs/Horniman_Music_954_0.jpg.webp?itok=MrXrnEKs)
Amgueddfeydd yn Ripon
![A woman looks up at thin strips of paper that are hanging from the ceiling](/sites/default/files/inline-images/Lives-Unravelled-exhibition-Ripon-Workhouse-Museum740_0.jpg)
Yn Ripon, mae’r Workhouse Museum, y Prison & Police Museum a’r Courthouse Museum a dderbyniodd grant o’r Gronfa Argyfwng Treftadaeth y flwyddyn diwethaf, wedi ail-agor gyda arddangosfa wedi ei hysbrydoli gan y thema merched yn y wyrcws.
Castell Bamburgh
Ail-agorodd Castell Bamburgh, gyda'i 14 ystafell ysblennydd a'r Armstrong and Aviation Museum, ddoe wedi iddo fod ar gau am chwe mis. Mi wnaeth y gaer 1400-mlwydd oed sydd yn sefyll 150 o droedfeddi uwch lefel y môr ar arfodir Northumberland ysbrydoli y saga hanesyddol The Last Kingdom a dyma'r Bebbanburg go iawn.
Amgueddfa a Gerddi Horniman
Draw yn yr Horniman Museum, mae sawl o’r galerïau wedi ail-agor ag ynghyd a’r arddangosfa From Birth Till death: Scrolled Life Stories. Mae’r Gardens ar agor a mae modd archebu tocynnauar gyfer y Butterfly House.
Amgueddfeydd Cymru
![People mill outside a cottage post office and red telephone box](/sites/default/files/inline-images/St-Fagans-Post-Office740.jpg)
Mae atynfeydd dan-do Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn ail-agor ar dydd Mercher 19 Mai, ond mae rhaid archebu tocynnau o flaen llaw.
Y Black Country Living Museum
Mae’r Black Country Living Museum – amgueddfa awyr-agored yn Dudley sydd wedi ennill gwobwryon, y’i defnyddiwyd fel canolfan brechu Covid-19 yn ddiweddar, hefyd wedi ail-agor ei ddrysau ar ôl pum mis ar gau. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r amgueddfa yn cael ei drawsnewid i adrodd hanes bywyd yn 1940au i’r 1960au.
Y Whitehead Railway Museum
Yn Antrim, mi fydd y Whitehead Railway Museum y’i adnewyddwyd gyda chefnogaeth y Gronfa ym 2017, yn ail-agor ddiwedd y mis a bydd cyfle i archwilio treftadaeth rheilffordd yr Iwerddon.
Cefnogi amgueddfeydd
Mae amgueddfeydd yn adrodd straeon ein treftdaeth a mae eu casgliadau yn helpu i roi ymdeimlad i ni o le ac o'n hunaniaeth. Darganfyddwch fwy am y prosiectau amgueddfa, llyfrgelloedd a'r archifau rydym yn eu hariannu.