Adfywio ‘mawndiroedd coll’ De Cymru

Adfywio ‘mawndiroedd coll’ De Cymru

Butterfly
Cyllid i helpu adfer dros 540 hectar o dirwedd a chynefinoedd sydd wedi eu hamddifadu, gafodd eu hadnabod unwaith fel Alpau Morgannwg.

Nod prosiect Mawndiroedd Coll De Cymru yw i adfer tirwedd mawndir hanesyddol a helpu pobl i fwynhau eu gofod awyr agored lleol. Mae’r prosiect wedi derbyn £260,000 gan y Loteri Genedlaethol i ddatblygu ei gynlluniau ymhellach. Gall y prosiect wedyn wneud cais am grant mwy o dros £1.8 miliwn unwaith mae’r cynlluniau wedi eu datblygu’n llawn.

Heathland
Rhostir blodeuog. Credyd: NPTC

 

Y grant hwn yw’r un mawr gyntaf a ddyfarnwyd yn ardaloedd ffocws newydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghastell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, sydd wedi’u nodi fel y ddwy ardal yng Nghymru allai elwa fwyaf o fuddsoddiad y Loteri Genedlaethol yn eu treftadaeth.

Tirwedd sy’n newid

Wedi eu galw unwaith yn ‘Alpau Morgannwg’, roedd ardal yr ucheldir rhwng Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf yng nghymoedd De Cymru yn fawndir corslyd ar un adeg. Ond oherwydd y plannu coedwigoedd masnachol helaeth o goed coniffer ers yr 1950au, mae tirwedd yr ardal bellach yn edrych yn wahanol iawn.

Mae'r newid hwn wedi effeithio nid yn unig ar olwg y cymoedd, ond mae elfennau naturiol pwysig eraill fel gallu bywyd gwyllt prin i ffynnu yno, yn ogystal â mwy o risg o danau a llifogydd.

Mae'r defnydd o dir ar gyfer coedwigaeth hefyd wedi golygu bod ardaloedd mawr yn anodd cael mynediad atynt at ddefnydd hamdden, sy'n golygu nad yw pobl leol yn gweld budd y man gwyrdd helaeth.

Cychwyn newydd i natur a phobl

Mae'r prosiect yn gobeithio adfer dros 540 hectar o dirwedd a chynefinoedd hanesyddol, gan gynnwys:

  • corsydd mawn a phyllau
  • rhostir
  • glaswelltir
  • coetir brodorol

Ac oherwydd bod gorgorsydd yn brin ar draws y byd, bydd y prosiect yn cael effaith rhyngwladol sylweddol.

A bog
Cors ddu. Credit: NPTC

 

Yn ogystal â'r dirwedd yn elwa o'r newidiadau, bydd llawer o rywogaethau anifeiliaid sy'n dirywio ar hyn o bryd yn yr ardal yn gallu ffynnu unwaith eto. Mae hyn yn cynnwys adar fel yr ehedydd, y gog a'r troellwr mawr, yn ogystal ag anifeiliaid di-asgwrn-cefn fel y brith gwyrdd tywyll a’r glöyn byw brith perlog bach. Fe wyddom hefyd fod llygod y dŵr yn byw yn y cyffiniau. Fel rhan o'r prosiect, bydd ysgolion lleol yn 'mabwysiadu' un o'r rhywogaethau hyn, gan alluogi disgyblion i ddysgu am yr anifeiliaid sydd mewn perygl ar garreg eu drws a sut i helpu i’w diogelu.

Bydd pobl leol hefyd yn gallu dysgu am y dreftadaeth ar garreg eu drws drwy amrywiaeth o weithgareddau, yn amrywio o sgiliau traddodiadol fel gwrych-osod ac adeiladu waliau sych i grefft a rhaglenni gweithgareddau ar gyfer ysgolion lleol. Bydd ystafell ddosbarth arbennig yn cael ei hadeiladu gan ddefnyddio technegau traddodiadol ar y safle fel y gall pobl ddelio gyda natur yn uniongyrchol, tra bydd llwybrau troed tywys, safbwyntiau newydd ac arwyddion yn cael eu creu er mwyn agor yr ardal i fyny ac er mwyn i bawb allu ei mwynhau.

Craft activities
Gweithgareddau crefft. Credit: NPTC

Oes gennych chi syniad am brosiect?

Os oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect treftadaeth wedi'i leoli yng Nghastell-nedd Port Talbot neu Rhondda Cynon Taf, cysylltwch â thîm Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru ar: wales@heritagefund.org.uk.