Sut i gydnabod eich grant gan Lywodraeth Cymru
Mae pedair rhaglen ariannu yr ydym yn eu darparu ar ran Llywodraeth Cymru neu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru: Rhwydweithiau Natur, Coetiroedd Cymunedol, Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau.
Cyfeirio at eich grant mewn naratif
Os ydych yn cyfeirio at eich grant mewn deunyddiau marchnata fel datganiadau i'r wasg neu ar eich gwefan, defnyddiwch y llinellau canlynol, yn ôl y rhaglen rydych yn derbyn cyllid gan:
Rhwydweithiau Natur
Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
Coetiroedd Cymunedol
Ariennir y prosiect yma gan y cynllun Coetiroedd Cymunedol. Mae'n cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG)
Ariennir y prosiect hwn gan gynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG). Mae'n cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Ariennir y prosiect yma gan y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Mae'n cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau
Ariennir y prosiect hwn gan y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau. Mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
Coetiroedd Bach yng Nghymru
Ariennir y prosiect hwn gan y cynllun Coetiroedd Bach yng Nghymru. Darperir y ddwy raglen grant hyn gan y Gronfa Treftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.
Defnyddio ein logo partneriaeth
Gallwch lawrlwytho'r logo(s) partneriaeth dwyieithog perthnasol sydd eu hangen arnoch o'r dudalen hon a'u defnyddio yn unrhyw le lle gall pobl eu gweld yn glir. Darllenwch y wybodaeth isod i benderfynu pa logo partneriaeth sy'n iawn i chi.
Y Loteri Genedlaethol
Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau), Mae Coetiroedd Cymunedol, Grant Buddosddi mewn Coetir (TWIG) a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cael eu hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac arian a godir gan y Loteri Genedlaethol. Felly, ar gyfer y rhaglenni hyn, defnyddiwch ein logo gyda bysedd croes y Loteri Genedlaethol yn y gornel chwith uchaf.
Mae Chwalu Rhwystrau, Coetiroedd Bach yng Nghymru a Rhwydweithiau Natur (rownd un, rownd tri) wedi'u hariannu dim ond gan Lywodraeth Cymru, felly defnyddiwch ein logo heb y bysedd croes os gwelwch yn dda.
Gallwch lawrlwytho eich logo perthnasol o'r naill ffolder neu'r llall o'r ffolderi canlynol:
Fformatau logo
Mae gennym logos ar gael yn y fformatau canlynol:
- JPEG – defnyddir y fformat hwn yn eang ar gyfer cyhoeddi safonol (er enghraifft, i'w ddefnyddio ar PowerPoint neu MS Word.) Mae'r rhain ar gael mewn du yn unig.
- PNG – ar gyfer cyhoeddi gwe o ansawdd uchel
- EPS – ar gyfer argraffu o ansawdd uchel, a ddefnyddir gan ddylunwyr graffig
Wrth ddefnyddio logo partneriaeth, defnyddiwch ef yn ei gyfanrwydd i sicrhau bod y berthynas ariannu a chyflawni yn cael ei chynnal.
Ni ddylid byth newid y logos, er enghraifft, peidiwch ag: ystumio neu newid yn anghymesur, defnyddio un iaith ar ei phen ei hun gan fod yn rhaid iddynt fod yn ddwyieithog, tynnu unrhyw deip, neu newid cyfeiriad y ddraig Gymreig – rhaid iddi wynebu'r chwith bob amser.
Lliwiau
Mae dwy fersiwn lliw o logos y bartneriaeth: du a gwyn.
Bydd eich lliw cefndir yn pennu pa fersiwn i'w ddefnyddio:
- os ydych yn defnyddio print un lliw, defnyddiwch y fersiwn ddu o'r logo
- wrth osod y logo ar gefndiroedd lliw tywyll, defnyddiwch fersiwn gwyn y logo bob amser
Dim ond mewn du neu wyn y dylid atgynhyrchu'r logo, peidiwch â defnyddio unrhyw liw arall.
Cydnabyddiaeth fawr
Ar gyfer deunyddiau cydnabod mwy – er enghraifft ar baneli dehongli awyr agored – gwnewch yn siŵr bod y logo'n ddigon mawr i'w weld yn glir o bellter o bum metr.
Maint lleiaf
Mae'r maint lleiaf yn cyfeirio at holl led logo'r bartneriaeth. Er mwyn sicrhau bod y logo'n glir ac yn ddarllenadwy, y maint lleiaf y dylai ymddangos yw 108mm mewn print a 306px ar y sgrin.
Y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
Cyn cychwyn neu gymryd rhan mewn unrhyw hyrwyddiad am waith rydym wedi'i ariannu, rhaid i chi gysylltu â'ch Rheolwr Buddsoddi neu swyddfa'r wasg Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Rhowch wybod iddynt am unrhyw weithgareddau pellach yn y wasg.
Rhannu ar gyfryngau cymdeithasol
Os yw'n bosibl a lle mae lle yn caniatáu, tagiwch Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Treftadaeth yn eich negeseuon.
@NewidHinsawdd / @WGClimateChange
@HeritageFundCYM
Instagram a Facebook
@NewidHinsawdd / @WGClimateChange
@HeritageFundCYM
@LlywodraethCym / @WelshGovernment
@NationalLotteryHeritageFund
Ein hashnodau
Mae gwahanol hashnodau ar gyfer pob rhaglen ariannu:
- Rhwydweithiau Natur: #RhwydweithiauNatur / #NatureNetworks
- Coetiroedd Cymunedol: #CoedwigGenedlaetholCymru / #NationalForestWales
- Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG): #CoedwigGenedlaethol / #NationalForestWales
- Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Chwalu Rhwystrau: #LleoeddLleolArGyferNatur / #LocalPlacesForNature
- Coetiroedd Bach: #CoetiroeddBach / #TinyForests
Lluniau
Bydd defnyddio lluniau gwych yn rhoi'r cyfle gorau i'ch negeseuon gael sylw. Defnyddiwch unrhyw beth sy'n dangos gwerth y gwaith anhygoel rydych chi'n ei wneud.