Sut rydyn ni am wireddu potensial digidol y sector treftadaeth
Ddechrau 2018, cyhoeddodd yr Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) adroddiad o'r enw Diwylliant Digidol. Roedd yn alwad i bob rhan o’r sector diwylliannol ym Mhrydain i fanteisio ar bosibiliadau digidol.
Roedd hynny flwyddyn yn ôl, ac rwy'n ysgrifennu heddiw gan mai stori ‘Diwylliant Digidol’ i ryw raddau yw hanes fy rôl yma yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Y daith at fagu hyder yn yr oes ddigidol
Ymunais â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ychydig fisoedd ar ôl cyhoeddi ‘Diwylliant Digidol’. Fy ngwaith oedd gwneud sicrhau ein bod yn cyrraedd yr amcanion yn ogystal â manylion yr adroddiad.
Efallai mai'r peth cyntaf y gwnes i sylweddoli oedd bod yn rhaid i ni fel sefydliad ddilyn trywydd tebyg er mwyn magu hyder yn y byd digidol hefyd.
Un o'm tasgau cyntaf oedd cyflwyno dulliau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr o ymdrin â dulliau dylunio ac ystwyth o ran technoleg. Gallwch ddarllen mwy am yr hyn y mae ein tîm dylunio gwasanaeth digidol amlddisgyblaeth newydd yn ei wneud yn y blog yma.
Cynllunio ein hymgyrch ddigidol gyntaf
Mae gennym ddyletswydd hefyd i sicrhau y gall sefydliadau yn y sector treftadaeth ddefnyddio offer a dulliau digidol i gyflawni eu hamcanion.
Yn yr achos cyntaf, mae hyn yn golygu datblygu dull o gyflawni ein hymrwymiad i fuddsoddi £1miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i helpu feithrin sgiliau digidol yn y sector treftadaeth.
Dechreuais ar y gwaith cynllunio yma drwy siarad a gwrando mor eang ag y gallwn, er mwyn fy helpu i gyd-gynllunio ymgyrch ddigidol benodol a fyddai'n defnyddio'r £1miliwn mor effeithiol â phosibl.
Bydd yn cael ei lansio'n fwy ffurfiol yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ond rwyf am rannu un o'r gwersi pwysicaf y gwnes i ddysgu.
Sector sydd ag anghenion gwahanol iawn
Pan ddaw'n fater digidol, gall y sector treftadaeth gael ei rannu'n fras yn ddau fath gwahanol o sefydliad.
Mae'r math cyntaf eisoes yn ddigidol hyderus. Efallai eu bod yn arwain y byd fel y V&A, neu efallai eu bod yn llawer llai, ond maen nhw'n gwybod yn sylfaenol beth maen nhw am ei gyflawni ac eu hunig rwystr mewn gwirionedd yw amser ac arian.
Credwn fod ein prif raglenni ariannu agored yn bendant ar eu cyfer.
Mae'n hanfodol bod pobl yn gwrando ar y syniadau ardderchog sydd wedi'u galluogi i fod yn ddigidol gryf a chael eu hasesu gan sefydliad sydd ynddo'i hun yn ddigidol hyderus. Dyma pam rydym yn penodi pennaeth polisi digidol newydd a fydd yn goruchwylio'r gwaith o ddatblygu sgiliau digidol pob un o'n cydweithwyr.
Mae'r ail fath o sefydliadau treftadaeth mewn sefyllfaoedd gwahanol iawn. Nid oes ganddyn nhw’r hyder yn ddigidol i wybod pa rannau o ddigidol sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw: a ddylen nhw fod yn canolbwyntio ar y cyfryngau cymdeithasol? Ddylen nhw fod yn rhoi eu casgliadau ar-lein? Ar gyfer y sefydliadau yma, byddwn yn lansio amrywiaeth o bethau sy'n anelu at roi cymorth iddyn nhw. Byddwn yn estyn allan yn uniongyrchol i sôn am y manteision i rai sgiliau digidol, os hoffent roi cynnig arni.
Ac yn olaf, byddwn hefyd yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i unrhyw arweinwyr ac ymddiriedolwyr nad oes ganddynt hyder digidol eu hunain, ac nad ydynt o reidrwydd yn gwybod sut i fynd ati i adeiladu eu capasiti eu hunain.
Beth nesaf?
Bydd offeryn a grewyd mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Lloegr ar gael cyn bo hir. Bydd yn wasanaeth ar-lein am ddim i helpu sefydliadau diwylliannol i ddarganfod pa mor ddigidol ydyn nhw ar hyn o bryd, ac ym mha feysydd y gallan nhw wella.
Mae'r ddwy flynedd nesaf yn mynd i fod yn gyfnod eithriadol o brysur i ni ar yr ochr ddigidol. Cofiwch gadw golwg ar y wefan a Twitter am ragor o ddatblygiadau yn ystod yr haf.