Pwysigrwydd deall treftadaeth wrth frwydro dros gydraddoldeb
Bu’r terfysgoedd yn ddigwyddiad a ysgogodd y mudiad hawliau LGBT+ ac a ysbrydolodd genhedlaeth.
28 Mehefin 1969
Ar 28 Mehefin 1969, lansiodd Adran Heddlu Efrog newydd (NYPD) gyrch ar y Stonewall Inn yn Ninas Efrog Newydd. Dyma oedd y diweddaraf mewn cyfres o gyrchoedd a fu’n targedu bariau a mannau cymunedol LGBT+. Roedd hyn yn rhan o ymgyrch hirdymor o erledigaeth gan yr heddlu a bygythiadau yn erbyn y gymuned LGBT+ i orfod byw yn y cysgodion.
Fodd bynnag, roedd y cyrch yma’n wahanol. Pan ddaru menyw ifanc, Stormé DeLarverie, gwyno bod ei chyffion yn rhy dynn, cafodd ei tharo’n giaidd dros ei phen gan y swyddog a’i harestiwyd.
Roedd y sarhad yma wedi mynd yn rhy bell i'r dorf y noson honno. Yn arwain y gad roedd Sylvia Rivera a Marsha P Johnson, dau frenhines drag ifanc a oedd wedi bod ar flaen y gad yn y mudiad hawliau LGBT+ yn Efrog Newydd ers amser maith. Fe wnaethan nhw daflu poteli a gwrthwynebu’r arestio, ac ynghyd â chefnogwyr eraill y Stonewall Inn, ymladd yn ôl mewn brwydr gyda'r NYPD a fyddai'n para am sawl diwrnod.
Fe ysbrydolodd yr hyn a ddigwyddodd ar noson hafaidd boeth yn Efrog Newydd yn 1969 symudiad newydd.
Yn y DU, mae'r gwaddol yn cynnwys Pride, y Gay Liberation Front, Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr ac, yn y pen draw, genedigaeth yr elusen sydd â’r un enw, Stonewall. Mewn 50 mlynedd, mae’r cynnydd wedi bod yn frwydr galed, ond mae wedi digwydd yn gymharol gyflym. Mae'r rhan fwyaf o'r DU bellach yn mwynhau cydraddoldeb cyfreithiol LGBT+ llawn, ac weithiau gall fod yn hawdd anghofio nad yw cydraddoldeb cyfreithiol a chymdeithasol yr un peth.
Rydym wedi dod mor bell, ond mae cymaint ar ôl i'w wneud o hyd
Mae'r newyddion diweddaraf fod troseddau casineb homoffobig a thrawsffobig wedi cynyddu'n aruthrol yng Nghymru a Lloegr dros y pum mlynedd diwethaf yn ein hatgoffa'n glir fod gwaith i’w wneud eto. Cododd nifer yr achosion o droseddau casineb y pen o 144%. Ydy, mae’r modd mae’r achosion hyn yn cael eu cofnodi wedi gwella, ond fel y bydd unrhyw berson LGBT+ agored yn dweud wrthych chi, nid yw'r byd bob amser yn teimlo'n groesawgar iawn ar hyn o bryd.
Sut mae mynd i'r afael â hyn? Credaf fod treftadaeth yn rhan o’r ateb.
Mae treftadaeth yn hynod bwysig i gynyddu amlygrwydd a sbarduno cynnydd cymdeithasol. Rydym yn cymryd ysbrydoliaeth oddi wrth ein cyndadau a'r pethau sydd wedi eu pasio ymlaen i ni, ond rydym hefyd yn cael ysbrydoliaeth gan yr ymdeimlad o berthyn. Ac mae hynny mor bwysig i gymunedau lleiafrifol sy’n straffaglu i gael eu derbyn ac sy'n anweledig yn rhy aml yn ein sgwrs genedlaethol.
Fel person LGBT+, mae'r mater o dreftadaeth a pherthyn yn bwysig yn wleidyddol, ond mae hefyd yn hynod bersonol.
Rwy'n gwybod bod cymaint o'r hawliau a'r rhyddid yr wyf yn eu cymryd yn ganiataol yn cael eu hennill gan bobl fel Stormé a Sylvia a Marsha, ac rwy’n gwybod hefyd bod gennyf ddyletswydd i genedlaethau'r dyfodol i fod yn weladwy ac yn ddewr ac yn ddigyfaddawd pan ddaw'n fater o fynnu cynhwysiant i bawb.
Rydym i gyd yn sefyll ar ysgwyddau cewri, ac ni allwn ond gobeithio anrhydeddu eu hesiampl. Wrth imi fagu fy mhlant, rwyf am iddynt weld ein bod i gyd yn perthyn, nid dim ond er gwaethaf pwy yr ydym yn ei garu, ond am fod cariad ei hun yn bwysicach.
Ymrwymiad i gynhwysiant
Mae ein Fframwaith Ariannu Strategol presennol yn gwneud cynhwysiant yn ganlyniad gorfodol ac yn blaenoriaethu treftadaeth gymunedol. Mae ein tymor LGBT+ yn ymwneud â dod â'r ymrwymiad hwnnw'n fyw ac arddangos yr effaith y mae arian y Loteri Genedlaethol wedi’i gael ar lunio gwlad fwy blaengar a chynhwysol.
Hyd yma, rydym wedi ariannu mwy na 130 o brosiectau drwy grantiau sy'n werth mwy na £5.5 miliwn. Dros y 25 mlynedd nesaf rwy'n gobeithio y gallwn ni wneud cymaint mwy – a dangos gwerth y cyfraniad hwnnw drwy sicrhau byd mwy cynhwysol.
Rwy'n teimlo'n gyffrous ein bod yn mynd i glywed gan leisiau amrywiol yn ystod tymor LGBT+, o Joseph Galliano o Queer Britain i Veronica McKenzie o brosiect LGBT+ pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Haringey Vanguard, a llawer o grantïon eraill ledled y DU hefyd.
Materion treftadaeth – mae'n ymwneud cymaint â’r dyfodol yr ydym yn ei ddymuno â'r gorffennol yr ydym yn ei drysori.