Mis Hanes Anabledd: newid agweddau
Eleni, mae Sense yn dathlu 65 mlynedd ers ei sefydlu; canlyniad sgwrs rhwng dwy fam a oedd wedi rhoi genedigaeth i blant byddar.
Mae'r elusen yn darparu gwasanaethau tai a chymorth o ansawdd uchel i bobl anabl ledled y DU, gan sicrhau yr eir i'r afael â hawliau sylfaenol. Rydym hefyd am i bobl gyflawni eu hawliau sylfaenol i gyfeillgarwch, bod yn rhan o gymuned a theimlo eu bod wedi'u cynnwys. Yn ein gwaith, rydym wedi gweld sut y mae mynediad at ddiwylliant, gan gynnwys treftadaeth, yn chwarae rhan enfawr yn hyn.
Thema Mis Hanes Anabledd y DU 2020 yw 'Mynediad: Pa mor bell rydym wedi dod?' Mae'n ein gwahodd i ystyried i ba raddau y mae pobl anabl wedi cael mynediad i bob agwedd ar fywyd yn y DU. Felly beth am ddiwylliant?
Pa mor bell rydym wedi dod?
Ar un adeg, roedd rhyw fath o agwedd yn gyffredin. Roedd y cyfan yn ymwneud â phobl anabl anffodus nad oeddent, wrth gwrs, yn gallu gweithio, ac nad oedd yn rhaid iddynt ddefnyddio trafnidiaeth. Nid oedd yn cael ei ystyried yn rhesymol y dylent fwynhau mynediad i leoliadau diwylliannol yn eu cymunedau.
Mae'r oes wedi newid. Mae 25 mlynedd ers i'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ei gwneud yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd ei anabledd. Mae deddfwriaeth fel yma wedi gwneud gwahaniaeth i'r agweddau negyddol hynny, ac mae'n bwysig cymryd yr amser i ddathlu hyn.
Rydym wedi gweld llawer o sefydliadau diwylliannol yn gweithio gydag angerdd ac ymrwymiad i wella mynediad. Roeddwn yn falch o glywed bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi rhoi cynhwysiant, gan gynnwys ar gyfer pobl anabl, wrth wraidd ei meini prawf ariannu.
Mae ymdrechion fel y rhain wedi gwella bywydau pobl ac wedi rhoi mwy o ymdeimlad o hunangred a chydraddoldeb i lawer o bobl anabl.
Ond mae angen i ni weld mwy o gynnydd o hyd.
Bod yn anabl heddiw
Heddiw, mae tua 50% o bobl anabl yn y DU mewn cyflogaeth, o'i gymharu â tua 80% o bobl nad ydynt yn anabl. Mae pedair miliwn o bobl anabl yn byw mewn tlodi.
Mae gormod yn aros ar gyrion cymdeithas. Mae ymchwil gan Sense yn dangos bod un o bob dau oedolyn anabl yn teimlo'n unig bob dydd, a bod bron i un o bob tri o bobl nad ydynt yn anabl wedi osgoi siarad â pherson anabl.
Mae pobl anabl yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliant oherwydd agweddau negyddol, rhagfarn a ffyrdd anhyblyg o weithio.
O ran gwella mynediad, mae'n ymddangos mai newid agweddau yw'r frwydr anoddaf i bawb o hyd.
Sut i helpu
Mae gwella mynediad corfforol yn bwysig, gan gynnwys darparu cludiant priodol a chyfleusterau toiledau gwell. Dylai sefydliadau hefyd sicrhau bod eu gwefannau a'u cynnwys digidol yn hygyrch.
Ond un o'r pethau allweddol y gallwn ei wneud yw parhau i newid canfyddiadau.
Rydym wedi gweld sut y gall hyn weithio'n ymarferol yn ystod rhaglenni cyfeillio a diwylliant Sense, sy'n dod â phobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl at ei gilydd yn seiliedig ar fuddiannau'r ddwy ochr.
Mae'r manteision yn ddwyochrog ac yn gyfartal. Mae person anabl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau newydd ac mae gwirfoddolwyr yn dysgu sgiliau newydd, fel Iaith Arwyddion Prydain. Mae'r rhaglenni celf yn defnyddio cyfraniadau a chreadigrwydd unigryw pobl anabl, gan ddod â phobl at ei gilydd yn seiliedig ar gariad cyffredin at ddiwylliant.
Mae pawb yn elwa o gysylltiadau newydd a llai o unigedd. Mae cyfranogwyr anabl a chyfranogwyr nad ydynt yn anabl yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn chwalu rhwystrau i fynediad at ei gilydd. Weithiau mae newid bach yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Symud ymlaen: pandemig coronafeirws a thu hwnt.
Mae teimlad o anghrediniaeth, siom a dicter cynyddol wrth i'r cyhoedd glywed am nifer y marwolaethau ymhlith pobl anabl oherwydd COVID-19. Mae pobl anabl wedi syrthio drwy'r craciau, ac mae perygl gwirioneddol bod agweddau a mynediad cyfartal at gyfleoedd yn cael eu dal yn ôl yn barhaol.
Yn fwy nag erioed, mae arnom angen cynllun llawer mwy cynhwysfawr i gefnogi plant, oedolion anabl a'u teuluoedd, a'r staff rheng flaen sy'n eu cefnogi. Ni all ddod drwy ddiwylliant yn unig, wrth gwrs. Yn 2020 mae gennym gyfle unigryw ac unwaith mewn cenhedlaeth i fynd i'r afael â hyn gan fod Swyddfa'r Cabinet yn gyfrifol am gyflawni Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Pobl Anabl.
Ond gall y rhai sy'n gweithio yn y sectorau diwylliannol chwarae rhan fawr, gan herio eu hunain ac eraill i newid agweddau a chynnwys gwneud eu prosiectau'n agored i bawb.
Rhaid i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a mynediad i'r un cyfleoedd, gyda gwir ymrwymiad i wella bywydau pobl, ddod yn realiti newydd ar ôl coronafeirws.
Bydd taer angen, a byddai'n sicr yn rhywbeth gwerth ei ddathlu.