Edrych yn ôl ar ein 30fed flwyddyn a thuag at y cyfleoedd sydd i ddod ar gyfer treftadaeth

Edrych yn ôl ar ein 30fed flwyddyn a thuag at y cyfleoedd sydd i ddod ar gyfer treftadaeth

Eilish McGuinness
Dyma ein Prif Weithredwr yn nodi diwedd y flwyddyn drwy ddychwelyd i rai o’r prosiectau gwych yr ydym wedi’u hariannu a’n hatgoffa am y gwahaniaeth y mae treftadaeth yn ei wneud i bobl a chymunedau ar draws y DU.

Wrth i’r flwyddyn ddod i ben, nid yn unig yr wyf yn myfyrio ar 2024, ond ar effaith ariannu'r Loteri Genedlaethol ar dreftadaeth ers 1994.

Roedd eleni’n nodi 30 mlynedd ers i’r tocyn loteri cyntaf fynd ar werth a 30 mlynedd ers sefydlu’r Gronfa Treftadaeth i ddosbarthu incwm achosion da i brosiectau treftadaeth.

Dros y cyfnod hwnnw, mae'r Loteri Genedlaethol wedi codi £50bn ac rydyn ni wedi buddsoddi dros £8.6 biliwn a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol mewn mwy na 47,000 o brosiectau ar draws y DU.

Pobl a phrosiectau yn gwneud gwahaniaeth

Mae'n garreg filltir anhygoel. Ac mae’n fwy anhygoel fyth i fyfyrio ar y gwahaniaeth y mae'r ariannu wedi’i wneud i dreftadaeth, pobl, cymunedau a’r amgylchedd, ar hyd a lled y DU.

Roedd yn bleser edrych bob dydd ar ein stori 30 prosiect dros 30 mlynedd i gael fy atgoffa o amrywiaeth y prosiectau rydym wedi'u hariannu. Mwynheais hefyd fyfyrio ac hel atgofion am rai o'r momentau treftadaeth trawsnewidiol a ddewiswyd ar gyfer yr arddangosfa ar-lein a letyir gan yr Oriel Bortreadau Genedlaethol.

Yn ogystal â dangos i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yr effaith wych y maent wedi’i chael ar draws y DU, mae’r arddangosfa hefyd yn amlygu’n deimladwy na fyddai unrhyw un o’r prosiectau hynny wedi bod yn bosibl heb y bobl angerddol ac ymroddedig sy’n rheoli, yn gweithio ac yn gwirfoddoli dros dreftadaeth y DU. Bu i ni gydweithio â'r artist tir David Popa i anrhydeddu rhai o'r prosiectau treftadaeth trawsnewidiol gyda gosodiad yn Abaty Whitby ym mis Hydref. Roedd yn gynrychiolaeth brydferth o'u hymrwymiad a'u cyfraniad diffuant i dreftadaeth.

An aerial view of Whitby Abbey with a tree and hands holding the tree's roots painted on the ground around the abbey
Anrhydeddwyd saith Changers Gêm mewn gosodiad celf 5,400m troedfedd sgwâr yn Abaty Whitby a grëwyd gan yr artist David Popa o Efrog Newydd.

Buddsoddiad hirdymor, ar raddfa fawr

Hefyd yn 2024 rydym wedi bod yn edrych ymlaen at ddyfodol treftadaeth yn y DU. O'r swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli sy'n bosibl trwy swp diweddar o ddyfarniadau grant, i'n mentrau uchelgeisiol i gysylltu tirweddaugwella mynediad i fyd natur.

Yn ein strategaeth Treftadaeth 2033 fe wnaethom ddisgrifio sut rydym am fynd i'r afael â materion treftadaeth yn rhagweithiol ar raddfa fawr ac ar draws tiriogaethau, gan gyflymu syniadau newydd a mynd i’r afael â bylchau mewn cynigion sy’n cael eu cyflwyno i'n Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol safonol.

Rydym eisoes wedi dyfarnu dros £2.5 miliwn i brosiectau yn ein Lleoedd Treftadaeth, gan gynnwys Dinas Armagh, Banbridge a Craigavon, Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln a Torbay. Mae'r buddsoddiadau hyn yn rhan o fenter strategol 10 mlynedd gwerth £200m i helpu lleoedd i ffynnu drwy ddatgloi potensial eu treftadaeth, cysylltu cymunedau a meithrin partneriaethau lleol.

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda mannau addoli ar draws y DU – gan gynnwys yn Yr Alban a Chymru – i’w cefnogi i fynd i'r afael â'u heriau a sicrhau eu bod yn asedau cymunedol cydnerth am genedlaethau i ddod. Rydym yn cydnabod bod eglwysi, capeli, synagogau, gurdwaras a mwy yn dreftadaeth sydd mewn angen. Rydym yn bwriadu buddsoddi tua £100m dros y tair blynedd nesaf i wneud y rhan hon o'r sector yn fwy cynaliadwy, cadarn a hygyrch ac i adeiladu sgiliau i sicrhau y caiff ei warchod yn y tymor hir.

A person gives a speech inside a large church to a crowd of people seated in pews
Cyhoeddwyd ein grant o £491,000 i Gymdeithas yr Ymddiriedolaeth Datblygu yr Alban mewn digwyddiad yn Abaty Paisley.

Ysbrydoliaeth a chysylltiad

Mae'r holl fuddsoddiadau a mentrau hyn wedi'u dylunio i sicrhau y gwerthfawrogir ac y gofalir am dreftadaeth ac y caiff ei chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol. Ond rwy'n cydnabod na fydd ein hariannu ar ei ben ei hun bob amser yn ddigon i gyflawni'r weledigaeth hon.

Yr hyn y mae fy nghydweithwyr a minnau'n ei glywed pan fyddwn yn cwrdd â sefydliadau treftadaeth, a'r hyn yr ydych yn ei ddweud wrthym drwy ein Panel ymchwil Calon Treftadaeth y DU , yw bod yr amgylchedd gweithredu'n parhau i fod yn anodd. Mae eich costau wedi cynyddu a bu'n rhaid i'ch cyllidebau prosiect gynyddu. Mae gan ymwelwyr lai o arian i'w wario mewn atyniadau treftadaeth a gall fod yn anodd rhagweld a pharatoi ar gyfer problemau amgylcheddol, fel y llifogydd diweddar.

Rydym wedi ymrwymo i'ch cefnogi lle y gallwn a byddwn mor hyblyg â phosibl i gyflawni'r canlyniadau gorau ar gyfer treftadaeth, gan gynnwys gweithio gyda phartneriaid i ddeall yr amgylchedd ehangach a heriau'r sector. Os oes gennych bryderon am eich prosiect, cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn ni helpu.

Ond yr hyn sy'n galonogol yng nghanol yr heriau yw'r optimistiaeth, a'r dystiolaeth a welwn o bwysigrwydd treftadaeth – i chi ac i'ch cymunedau. A dyna pam rydyn ni'n gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud. Pam rydych chi'n gwneud yr hyn rydych chi'n ei wneud. Oherwydd y credwn mewn nerth treftadaeth a'i gallu i danio'r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i ennyn balchder mewn lle a chysylltiad â'r gorffennol.

Mae’r rhain yn feddyliau pwerus i’w cadw mewn cof wrth i ni ffarwelio â'r flwyddyn yma, paratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf a pharhau i gydweithio dros dreftadaeth.

A group of people of different ages walking up a path towards a castle-style building
Cafodd Castell Margam, Port Talbot, £900,030 yn gynharach eleni am waith adfer, cynaliadwyedd a hygyrchedd. Llun: Robert Melen.