Beth yw Data Agored?
Felly beth ydym yn ei olygu gan "Data Agored"?
Yn syml: data y gellir ei ddefnyddio'n rhydd, a rennir ac a ddatblygir gan unrhyw un, unrhyw le, at unrhyw ddiben.
Gall "Agored" fod yn berthnasol i wybodaeth o unrhyw ffynhonnell ac am unrhyw bwnc. Gall unrhyw un ryddhau eu data o dan drwydded agored i'w ddefnyddio am ddim gan y cyhoedd.
Gallwch ddod o hyd i'n data ar y dudalen Data Agored.
Beth mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ei wneud?
Rydym am i'r data a gasglwn fod yn ddefnyddiol (hy yn gyson ac yn gywir), yn integredig ac yn gwbl hygyrch ar draws y sefydliad er mwyn ein helpu i gyflawni ein hamcanion corfforaethol.
Credwn hefyd, fel prif ariannwr treftadaeth ledled y DU, fod gennym ddyletswydd i fod yn dryloyw ynghylch ein penderfyniadau ariannu.
Ac felly oherwydd hyn, bydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn rhyddhau data am y grantiau a ddyfarnwyd gennym yn ystod ein pedwaredd fframwaith ariannu strategol (2013-14 i 2018-19) ar ffurf taenlen ar ein gwefan. Byddwn yn lanlwytho data yn gyson.
Beth all Data Agored gael ei ddefnyddio ar ei gyfer?
Mae data a gwybodaeth yn ein helpu i fod yn ariannwr treftadaeth blaengar ac effeithlon.
Mae data a gwybodaeth o ansawdd da, sy'n cael eu trin yn dda ac sydd ar gael yn gyflym, yn rhoi cipolwg dyfnach inni ar y prosiectau rydym yn eu hariannu ac yn ein galluogi i fod yn fwy effeithiol wrth:
- nodi a mynd i'r afael â risgiau
- cefnogi gweithgareddau eiriolaeth megis ymgyrchoedd yn y cyfryngau a datblygu polisïau
- gwella'r berthynas rhwng rhanddeiliaid
- dangos arweiniad
Rydym hefyd yn credu y bydd ein data agored yn ddefnyddiol i ymchwilwyr a gwerthuswyr annibynnol sydd â diddordeb mewn tueddiadau ariannu ac yn lefel ac amrywiaeth gweithgarwch sy'n gysylltiedig â threftadaeth ledled y DU.
Er enghraifft, oeddech chi'n gwybod:
- 1994 i 2018, roedd 73% o'r grantiau a ddyfarnwyd ar gyfer £50,000 neu lai?
- neu fod dros 50% o'n grantiau yn ôl cyfaint yn ymwneud â phrosiectau sy'n canolbwyntio ar dreftadaeth anniriaethol?
Ar y llaw arall, yn ôl gwerth, roedd adeiladau hanesyddol a henebion yn cyfrif am 37% o'n gwariant grant ers 1994.
Hefyd, mae 58% o'r holl brosiectau sydd erioed wedi gwneud cais am gyllid wedi bod yn llwyddiannus.
Gallwch ddarganfod mwy o ffeithiau a ffigurau diddorol drwy ymchwilio i'n data drosoch eich hun.
Rhowch wybod i ni beth rydych yn ei ganfod, a rhowch adborth i ni am unrhyw welliannau y gallwn eu gwneud i'r setiau data a ryddheir i'r defnyddiwr.
Rhyddhau data drwy GrantNav
Rydym hefyd yn gweithio gyda 360Giving i ryddhau ein data drwy'r platfform GrantNav, gan ymuno â 100 o gyllidwyr eraill.
Mae 360Giving yn rhoi cymorth i sefydliadau gyhoeddi eu data grantiau mewn ffordd agored, safonedig. Mae'n helpu pobl i ddeall a defnyddio'r data i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau a dysgu ar draws y sector rhoi elusennol.
Y dyfodol
Mae llawer o ardaloedd lle gall Data agored fod, a lle y gallant fod, o werth, yn enwedig lle mae mynediad rhwydd at wybodaeth yn gwella gwneud penderfyniadau yn unigol ac ar y cyd. Er enghraifft, roedd adroddiad diweddar gan Borth Data Ewropeaidd yn nodi bod cymhwyso data agored i draffig yn gallu arbed 629miliwn o oriau o amser aros diangen ar y ffyrdd yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae yna hefyd lawer o wahanol grwpiau o bobl a sefydliadau a all elwa ar argaeledd Data Agored, gan gynnwys y Llywodraeth ei hun.
Mae eisoes yn bosibl cyfeirio at achosion lle mae Data Agored yn creu gwerth, megis:
- cynyddu tryloywder drwy adael i bobl wybod sut y mae arian yn cael ei wario
- cefnogi cyfranogiad drwy alluogi cynulleidfaoedd i gael eu hysbysu'n llawer mwy uniongyrchol am wneud penderfyniadau.
- hunan-rymuso drwy roi mwy o fynediad i unigolion at wybodaeth hanfodol
- cynhyrchion a gwasanaethau gwell neu newydd
- arloesi drwy wella cydweithio gan arwain at greu syniadau newydd
- gwell effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau
- mesur effaith yn well o ran cyllid a pholisïau
Ar yr un pryd, mae'n amhosibl rhagweld yn union sut a ble y caiff gwerth ei greu. Mae natur arloesedd yn golygu bod datblygiadau yn aml yn deillio o leoedd annhebygol.
O'n rhan ni, rydym yn gobeithio y bydd ein data agored yn ein helpu i barhau i ysbrydoli, arwain ac ariannu treftadaeth y DU, gan greu newid parhaol i bobl.