Grantiau Treftadaeth Gorwelion: grantiau o £5miliwn a mwy
Diweddariad 1 Ebrill 2020
Yng ngoleuni argyfwng coronafeirws (COVID-19), bydd sefydliadau sydd wedi'u dewis i wneud cais am ddyfarniadau Grantiau Treftdaeth Gorwelion yn cael rhagor o amser ac yn cael eu gohirio tan y flwyddyn ariannol 2021/22.
Ni fyddwn yn agor rownd arall o gyllid ar gyfer Grantiau Treftadaeth Gorwelion.
Faint o arian y gallwch ymgeisio amdano
Y swm lleiaf o grant y gallwch ofyn amdano yw £5miliwn. Gallwch ymgeisio am unrhyw swm sy’n fwy na hynny – nid oes terfyn ar faint y gallwch wneud cais amdano.
Mae gennym gyfanswm o £50miliwn ar gael yn y flwyddyn gyntaf (2020-2021). Mae'r broses ymgeisio bellach wedi cau.
Pwy all ymgeisio
Gallwch wneud cais am Grant Treftadaeth Gorwelion os ydych yn:
- sefydliad dielw
- partneriaeth sy'n cael ei harwain gan sefydliad dielw
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano
Y syniad y tu ôl i Grantiau Treftadaeth Gorwelion yw: "Cefnogi syniadau mawr i ddatgloi posibiliadau".
Disgwyliwn i bob prosiect fod:
- yn drawsnewidiol
- yn arloesol
- yn gydweithredol
Mae hyn yn golygu ein bod am i chi ddangos cynlluniau clir ac uchelgeisiol ynghylch sut y bydd y prosiect yn sicrhau newidiadau a manteision cadarnhaol i bobl, lleoedd a'r dreftadaeth ehangach. Rydym yn disgwyl i chi fod â chynlluniau i rannu’r hyn yr ydych yn ei ddysgu o'r prosiect yn eang ar draws y sector.
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth.
Ein blaenoriaethau strategol yw:
- tirweddau a natur
- treftadaeth mewn perygl
Sut i ymgeisio
Darllenwch y dogfennau allweddol isod, a chyflwynwch ffurflen datganiad o ddiddordeb erbyn 11 Hydref 2019, drwy ein porth ymgeisio.
Byddwn yn asesu cyflwyniadau ar sail ein hawydd i sicrhau portffolio cytbwys o brosiectau ar draws daearyddiaethau a mathau o dreftadaeth. Rhaid i bob Datganiad o Ddiddordeb ddangos cynigion uchelgeisiol ar gyfer cyflawni ein canlyniad cynhwysiant gorfodol.
Os yw eich Datganiad o Ddiddordeb yn dangos potensial cryf, byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno eich cynnig i banel sy'n gwneud penderfyniadau.
Byddwn wedyn yn penderfynu ar restr fer. Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer ai peidio erbyn diwedd Rhagfyr 2019.
Beth sy’n digwydd os ydych ar y rhestr fer
Os ydych yn cael eich rhoi ar y rhestr fer, cewch eich gwahodd i gyflwyno cais ar gyfer cam datblygu drwy ein porth ceisiadau ar-lein erbyn:
- 1 Medi 2020 i dderbyn penderfyniad erbyn 31 Rhagfyr 2020
Sicrhewch fod dyddiad cychwyn eich prosiect yn hwyrach na dyddiad y penderfyniad.
Dyddiadau allweddol
Mae dau gam i’r rhaglen:
- cyfnod datblygu: hyd at ddwy flynedd
- cam cyflawni prosiect: hyd at bum mlynedd
Ar gyfer grantiau mwy na £5m, caiff dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau eu gosod ymlaen llaw i egluro pa bryd y gwneir penderfyniadau ariannu.
- 11 Hydref 2019 am hanner dydd: dyddiad cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb
- Rhagfyr 2019: hysbysu'r prosiectau sydd ar y rhestr fer
- 1 Medi 2020 am hanner dydd: dyddiad cau ar gyfer cais datblygu
- erbyn 31 Rhagfyr 2020: gwneir penderfyniadau datblygu
- hyd at 2022: bydd gan brosiectau hyd at ddwy flynedd i gyflwyno eu cynigion cyflenwi. Bydd y penderfyniadau ar gyflawni prosiectau’n cael eu gwneud gan y Bwrdd.
Beth sydd angen i chi ei gyfrannu'n ariannol
Rhaid i chi gyfrannu o leiaf 10% o gostau eich cyfnod datblygu a 10% o gostau eich cyfnod cyflawni.
Disgrifiwn eich cyfraniad fel "cyllid partneriaeth" a gall fod yn cynnwys arian parod, cyfraniadau heb fod yn arian parod, amser gwirfoddoli neu gyfuniad o'r rhain i gyd.
drwy ein porth ceisiadau ar-lein erbyn:
- 31 Awst 2020 i dderbyn penderfyniad erbyn 31 Rhagfyr 2020
Sicrhewch fod dyddiad cychwyn eich prosiect yn hwyrach na dyddiad y penderfyniad.
Dyddiadau allweddol
Lansio gwerth £100m o Grantiau Treftadaeth Gorwelion
Mae dau gam i’r rhaglen:
- cyfnod datblygu: hyd at ddwy flynedd
- cam cyflawni prosiect: hyd at bum mlynedd
Ar gyfer grantiau mwy na £5m, caiff dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau eu gosod ymlaen llaw i egluro pa bryd y gwneir penderfyniadau ariannu.
- 4 Hydref 2019: dyddiad cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb
- Rhagfyr 2019: hysbysu'r prosiectau sydd ar y rhestr fer
- 31 Awst 2020: dyddiad cau ar gyfer cais datblygu
- erbyn 31 Rhagfyr 2020: gwneir penderfyniadau datblygu
- hyd at 2022: bydd gan brosiectau hyd at ddwy flynedd i gyflwyno eu cynigion cyflenwi. Bydd y penderfyniadau ar gyflawni prosiectau’n cael eu gwneud gan y Bwrdd.
Beth sydd angen i chi ei gyfrannu'n ariannol
Rhaid i chi gyfrannu o leiaf 10% o gostau eich cyfnod datblygu a 10% o gostau eich cyfnod cyflawni.
Disgrifiwn eich cyfraniad fel "cyllid partneriaeth" a gall fod yn cynnwys arian parod, cyfraniadau heb fod yn arian parod, amser gwirfoddoli neu gyfuniad o'r rhain i gyd.
Am ragor o fanylion, gweler y canllawiau isod.
Dogfennau allweddol y bydd eu hangen arnoch i'ch helpu i ymgeisio:
- canllawiau ymgeisio - dyma'r canllawiau ymgeisio ar gyfer ein grantiau £250,000-£5m. Mae'n nodi pwy all wneud cais, beth rydym yn chwilio amdano, y broses ymgeisio, y llinell amser a'r cyfraniadau ariannol. Mae hefyd yn berthnasol i grantiau dros £5m, ar wahân i'r gwahaniaethau a amlinellir uchod.
- nodiadau cymorth i ymgeisio
- rhagolwg o'r cwestiynau sydd yn y Datganiad o Ddiddordeb
- canllawiau arferion da
- telerau safonol ar gyfer cyfnod datblygu’r grantiau
- telerau safonol ar gyfer grantiau darparu prosiect