Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau), Ionawr 2023
Rydym yn dobarthu'r Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau) ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.
Bwriad y gronfa yw gwella cyflwr a gwydnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig a chefnogi cymunedau o amgylch y safleoedd gwarchodedig i gymryd rhan mewn cadwraeth natur. Rydym wedi dyrannu grantiau yn amrywio rhwng £87,600 a £249,999 i 17 prosiect.
Ledled Cymru
Yr RSPB – Bioddiogelwch i Gymru
Grant: £249,713
Prif ffocws y prosiect yw atal sefydlu ysglyfaethwyr mamaliaid anfrodorol megis llygod mawr sy'n gallu ysglyfaethu ar adar môr sy'n nythu ar y ddaear mewn ystod eang o safleoedd adar môr ar hyd arfordir Cymru.
Bydd yn gwella arferion bioddiogelwch yn y gwaith o reoli ynysoedd adar môr o ddydd i ddydd ac yn darparu hyfforddiant a chymorth i staff, gweithredwyr cychod, harbwrfeistri a gwirfoddolwyr sy'n ymwneud â gwyliadwriaeth bioddiogelwch. Bydd y prosiect hefyd yn cynnal cronfa ddata bioddiogelwch genedlaethol.
Gogledd Cymru
Yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod – Gobaith Coetir: ACA Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirionydd Dyffryn Ffestiniog
Grant: £227,603
Gyda phob un o’r 15 rhywogaeth o ystlum a geir yng Nghymru yn defnyddio coetiroedd ar gyfer clwydo, chwilota am fwyd a chymudo, mae coetiroedd yn ddangosyddion ardderchog o iechyd y boblogaeth ystlumod
Bydd y grant yn ariannu arolwg o goetiroedd SoDdGA yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirionnydd yn Nyffryn Ffestiniog i fesur amrywiaeth a lefelau gweithgaredd ystlumod yno. Bydd hefyd yn annog defnydd cyhoeddus o goetiroedd i bontio'r bwlch rhwng cymunedau lleol a'u treftadaeth coetir.
Tir Gwyllt - Rhwydweithiau Madfall
Grant: £249,576
Bydd y prosiect yn gweithredu yn ardaloedd Johnstown, Bwcle, Cei Connah a Llanelwy yng ngogledd ddwyrain Cymru. Bydd Tir Gwyllt yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint a Chadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid (ARC) i wella cyflwr nifer o safleoedd dynodedig yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych gan ganolbwyntio ar gynefin pyllau a gwlyptir a rhywogaethau amffibiaid.
Bydd y prosiect yn gweld pyllau’n cael eu creu a’u hadfer, yn clirio prysgwydd a bydd llwybrau troed a choridorau bywyd gwyllt yn cael eu creu ar draws naw safle a chyfres o ddigwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnal yn ystod hafau 2023 a 2024.
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru – ‘Atal Estroniaid Rhag Ennill Tir’
Grant: £249,999
Mae'r prosiect yn cwmpasu'r Afon Dyfrdwy rhwng y Bala a Llangollen. Erbyn 2025, nod y prosiect yw lleihau nifer y planhigion ymledol ar hyd darn 30km o lan yr afon yn yr Ardal Cadwraeth Arbennig hon a gwella ei chyflwr cyffredinol. I wneud hyn, bydd staff a gwirfoddolwyr o’r gymuned leol yn cynnal arolygon i gael dealltwriaeth lawn o ba mor eang yw planhigion anfrodorol yn yr ardal a chynyddu ymwybyddiaeth o dreftadaeth naturiol ACA Afon Dyfrdwy.
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru –‘Adfer Glaswelltir Calchfaen’
Grant: £249,999
Bwriad y prosiect hwn yw reoli lledaeniad planhigion creigafal sydd yn gallu bod yn fygythiad i lystyfiant brodorol. Mae'n gweithio dros bum safle gwarchodedig:
- Y Gogarth yn Llanduno;
- Comin Helygain a glaswelltiroedd Treffynnon;
- Coedwigoedd calchfaen Llanddulas a choedwigoedd Castell Gwrych;
- Moel Hiraddug a Bryn Gop
- Mynydd Marian yng Nghonwy
Bydd teithiau cerdded tywysedig ac arwyddion am y gwaith fel y gall y cymunedau lleol ymgysylltu â’u treftadaeth naturiol a dysgu amdani.
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru– ‘Byw gydag Afancod’
Grant: £249,545
Mae nifer bach o afancod yn byw yn wyllt yn yr ardal yn barod, ond bwriad y prosiect hwn yw ailsefydlu afancod fel ychwanegiad gwerthfawr a chroesawgar i ddalgylch Dyfi fel bod eu sgiliau peirianneg ecosystem yn gallu adfer, gwella a chynnal treftadaeth yr ardal.
Bydd yn gweithio i sicrhau bod buddion afancod yn cael eu mwynhau a’u hannog tra bod effeithiau negyddol yn cael eu hosgoi neu eu lleihau trwy fonitro a rheolaeth ar effaith afancod. Mae rhyddhau afancod yn amodol ar dderbyn trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Y Gymdeithas Cadwraeth Forol – ‘Llythrennedd y Môr’
Grant: £244,000
Bydd y prosiect yn cysylltu pobl â’n cefnforoedd drwy ymgysylltu â’r gymuned a rheoli safleoedd gwarchodedig. Bydd yn ysbrydoli cymunedau lleol i ofalu am y cefnforoedd a’u grymuso i weithredu i’w warchod trwy weithgareddau fel glanhau traethau ac arolygon sbwriel.
Bydd hyn yn cyfrannu at reolaeth gynaliadwy AGA Bae Lerpwl/Bae Lerpwl a'r amgylchedd morol ehangach ac yn darparu tystiolaeth i lywio camau cadwraeth ymarferol ac ysgogi newid deddfwriaethol ar gyfer amgylcheddau morol Cymru.
Cymdeithas Sŵolegol Llundain a Phrifysgol Bangor – ‘Adfer Wystrys Gwyllt’
Grant: £249,919
Bydd y prosiect dwy flynedd yn cyflwyno wystrys brodorol Ewropeaidd ar safleoedd gwarchodedig AGA Bae Lerpwl ac ACA Afon Menai a Bae Conwy. Trwy wneud hynny mae'n anelu at afar cynefin wystrys brodorol Ewropeaidd a'r gymuned fioamrywiol o organebau cysylltiedig a threftadaeth ddiwylliannol leol a chyfrannu at adferiad cefnforol.
Bydd ail-greu’r cynefin coll hwn yn rhoi cyfleoedd i gymunedau lleol – ysgolion, prifysgolion a thrigolion, gysylltu â’u treftadaeth arfordirol drwy addysg a gwyddoniaeth dinasyddion.
Coetir Anian – Cysylltiadau Natur
Grant: £249,995
Wedi’i leoli yng Nglaspwll y tu allan i Fachynlleth, nod y prosiect adfer natur yw adfer cynefinoedd a gwella cysylltedd rhwng pedwar safle yn nalgylchoedd uchaf llednentydd Llyfnant, Melindwr ac Einion yn Afon Dyfi. Bydd mwy o orchudd coed ym Mwlch Corog a Phemprys gerllaw yn gwella cysylltedd cynefinoedd rhwng ACA coetir Cwm Einion a SoDdGA coetir Cwm Llyfnant.
Bydd adfer mawndir diraddiedig hefyd yn adfer rhostir yr ucheldir a gorgors i gysylltu dau SoDdGA a ddynodwyd ar gyfer y cynefinoedd hyn - Pencreigiau'r Llan a Phen Carreg Gopa a Moel Hyrddod.
Canolbarth Cymru
Aberaeron Conservation Ltd – Coed Gwasanaeth Gwyllt
Grant: £87,600
Prosiect i warchod, gwella a galluogi ehangu SoDdGA coetir Coed Allt Craig Arth ger Aberaeron. Yn rhedeg am ddwy flynedd, ei nod cyffredinol yw gwneud y coetir yn fwy gwydn i newid hinsawdd a gwella ei Statws Cadwraeth Ffafriol fel ei fod yn ffynnu ac yn parhau i ffynnu i’r dyfodol. Ar ôl ei gwblhau, bydd y prosiect wedi creu gofod unigryw ar gyfer pobl a bywyd gwyllt a gwella bioamrywiaeth a fydd yn cadw ac yn adfer cynefinoedd a rhywogaethau sy'n unigryw i Geredigion.
Gorllewin Cymru
Yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn - Cysylltu Arfordir Sir Gaerfyrddin
Grant: £222,272
Mae Sir Gaerfyrddin yn dirwedd flaenoriaeth ar gyfer cacwn prin a datblygwyd y prosiect hwn i helpu rhywogaethau di-asgwrn-cefn i deithio rhwng rhwydwaith gwerthfawr arfordir Sir Gaerfyrddin o safleoedd gwarchodedig. Bydd y gwaith yn cynnwys cynnal arolygon cynhwysfawr i roi darlun cywir o boblogaethau a chynefinoedd ar gyfer rhywogaethau cacwn targed.
I wneud y mwyaf o effaith y prosiect ar fyd natur, bydd hefyd yn gweithio gyda sefydliadau eraill i arolygu rhywogaethau o bryfed sydd dan fygythiad, fel gwenyn unigol, gloÿnnod byw a chwilod. Bydd swyddog prosiect yn cael ei gyflogi i gynnal arolygon o gacwn ar safleoedd blaenoriaeth.
Fferm Trychfilod Dr Beynon Cyf – ‘Adferiad Natur’
Grant: £211,624
Nod y prosiect yw llenwi'r bylchau yn y coridor cynefin tameidiog ar draws Penrhyn Tyddewi er mwyn cryfhau ei rwydwaith o dir gwarchodedig. Bydd cysylltu cynefinoedd fel safleoedd clwydo a nythu yn helpu rhywogaethau fel yr ystlum pedol mwyaf prin ac yn cynorthwyo adferiad byd natur a bydd y prosiect yn gweithio gyda Chyngor Sir Penfro i dreialu'r defnydd o ysgolion amffibiaid mewn draeniau gylïau ffordd. Bydd datblygu Canolfan Adfer Natur yn annog ymgysylltiad cymunedol â'r prosiect.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Coast National Park Authority – Pwyth mewn pryd/Stitch in time
Grant: £170,193
Pwrpas yr prosiect hwn y dileu a rheoli lledaeniad rhywogaethau ymledol anfrodorol. Bydd yn targedu ffromlys chwarennog a chanclwm Japan mewn afonydd yn y parc cenedlaethol mewn chwe ardal:
- SoDdGA Cors Castellmartin;
- SoDdGA Dyfrffordd Aberdaugleddau;
- SoDdGA Aberarth Carreg Wylan;
- ACA Preseli ac ACA Afonydd Cleddau;
- ACA Preseli ac ACA Coetiroedd Gogledd Sir Benfro;
- ACA Comin Gogledd Orllewin Sir Benfro ac ACA Tyddewi.
Bydd cydlynydd prosiect yn cael ei gyflogi i arwain a chydlynu gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, contractwyr, staff a thirfeddianwyr.
De Cymru
Ymddiriedolaeth Natur Gwent Cyf – ‘Cysylltu Natur, Cysylltu Cymunedau’
Grant: £248,834
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar 11 gwarchodfa natur sy'n cynnal cynefinoedd gan gynnwys coetir hynafol, gweirgloddiau traddodiadol a rhywogaethau eraill. Mae'r ardal yn cynnwys naw SoDdGA, un ACA, un AGA a 2 Safle Bywyd Gwyllt Lleol (LWS) sy'n gorchuddio dros 400 hectar a bydd y prosiect yn gwella cyflwr ecolegol y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig ledled Gwent.
Mae'r safleoedd hyn i gyd yn hanfodol i sicrhau bod rhywogaethau'n ffynnu ac o yn cynnal tirwedd sy'n wydn yn ecolegol a bydd y prosiect hefyd yn galluogi mwy o gymunedau i ddarganfod a chefnogi'r natur ar garreg eu drws.
Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru - ‘Glaswelltiroedd Iach, Gwydn’
Grant: £249,565
Mae glaswelltiroedd lled-naturiol yn gynefin dan fygythiad sydd i’w gael yn bennaf yng nghefn gwlad ffermio ac fel arfer yn cael ei bori gan dda byw ac yn gysylltiedig â defnydd isel iawn o wrtaith synthetig. Mae'r prosiect hwn yn ceisio gwrthdroi colli'r cynefinoedd hyn trwy well rheolaeth ac ymwybyddiaeth o'u pwysigrwydd a bydd yn gweithio ar draws 11 o safleoedd gwarchodedig fel y gellir cyflwyno pori. Bydd yn creu rhwydwaith gwell o laswelltiroedd o ansawdd uchel ac yn cynnal amrywiaeth o rywogaethau sy’n byw mewn glaswelltiroedd.
Ymddiriedolwyr Ystâd Merthyr Mawr – ‘Ailgysylltu Natur’
Grant: £120,731
Mae’r twyni tywod ger Pen-y-bont ar Ogwr yn Warchodfa Natur Genedlaethol, yn system dwyni bwysig ac yn gartref i rai o rywogaethau planhigion ac adar prinnaf Cymru. Bydd y prosiect hwn yn cysylltu'r ystâd gyfan â'r warchodfa natur ac yn cael gwared ar rywogaethau anfrodorol er mwyn annog cynefinoedd tywod noeth sy'n hanfodol i oroesiad planhigion gan gynnwys llysiau'r afu sy'n nodweddion pwysig o'r ACA. Bydd hefyd yn gwarchod presenoldeb adar fel y pibydd y gylfinir, yr afoced a'r pibydd piws.
Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru - ‘Adfer SoDdGA Cwm Elái’
Grant: £248,314
Wedi'i leoli yng Nghwm Elái, bydd y prosiect yn cwmpasu'r darn o afon rhwng Sain Ffagan a Meisgyn, sy'n SoDdGA a'r 'orsaf orau yng Nghymru ar gyfer Aconitum anglicum' (Cwcwll y mynach). Mae'r safle hefyd yn goridor hanfodol ar gyfer rhywogaethau eraill a warchodir gan gynnwys y dyfrgi Ewropeaidd; llygoden y dŵr; llysywen bendoll yr afon; llysywen bendoll y môr ac eog yr Iwerydd. Fodd bynnag, mae bodolaeth rhywogaethau a gwytnwch y safle yn cael eu bygwth gan faterion fel gor-bori gan wartheg, colli gorchudd coed a chysgod ac effeithiau rhywogaethau ymledol.