Chwilio am arloeswyr i arwain gyda ffyrdd newydd o weithio
Diweddarwyd y dudalen ar 21 Gorffennaf 2022 i gynnwys dolenni i weithdai yn y dyfodol.
Mae sut rydym yn gweithio, pwy sy'n rhan o'r gweithlu treftadaeth a pha sgiliau sydd eu hangen arnom yn ystyriaethau hanfodol ar gyfer bodloni gofynion ac uchelgeisiau'r dyfodol ar gyfer treftadaeth amrywiol y DU.
Trwy gyfuniad o gymorth ariannol, cyngor arbenigol a chydweithio carfanau, bydd ein Cronfa Arloesi Treftadaeth yn helpu sefydliadau i feithrin syniadau ac atebion newydd arbrofol i’r heriau cyfunol hyn.
Dyma foment amserol i lansio’r Gronfa Arloesedd Treftadaeth... i archwilio’r syniadau, yr atebion a’r technolegau a allai gefnogi treftadaeth yn effeithiol yn y dyfodol.
Alexandra Roberts, Pennaeth Head Arloesi a Busnes Newydd
Bwriad y fenter yw cynnwys tri cham:
- Archwilio: diffinio'r broblem a datblygu atebion posibl.
- Profi: rhoi prototeipiau addawol ar waith a chasglu tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio.
- Datblygu: rhoi canfyddiadau ar waith yn ehangach o fewn sefydliadau ac ar draws y sector.
Mae’r broses ceisiadau nawr ar agor ar gyfer y cam Archwilio yn unig. Mae grantiau o hyd at £25,000 ar gael i dalu am eich amser a gweithgareddau fforio am chwe mis.
Rydym am glywed gan sefydliadau sydd wedi ymrwymo i’r broses arloesi, yn barod i ddysgu ac arbrofi ac yn barod i rannu eu methiannau yn ogystal â’u llwyddiannau.
Mae’r cynllun peilot yn agored i sefydliadau dielw a’r sector cyhoeddus, awdurdodau lleol, yn ogystal â pherchnogion treftadaeth preifat.
Addas ar gyfer y dyfodol
Dywedodd Alexandra Roberts, ein Pennaeth Arloesedd a Busnes Newydd: "Mae hon yn foment amserol i lansio'r Gronfa Arloesedd Treftadaeth. Mae'r weithred o edrych ymlaen yn un bwerus, yn enwedig pan fyddwn ni wedi bod trwy gyfnod mor gythryblus.
"Yn ein harolwg Calon Treftadaeth y DU diweddar, daeth cefnogaeth i arloesi a phrofi dulliau newydd yn un o'r pedair prif flaenoriaeth ar gyfer gweithredu. Mae'r fenter beilot hon yn un yn unig o'r ffyrdd yr ydym yn ymateb i'r angen hwn a nodwyd. Mae'n rhan bwysig o ein hymrwymiad ehangach i weithio ochr yn ochr ag ymarferwyr o bob rhan o’r DU a phob rhan o dreftadaeth i archwilio’r syniadau, yr atebion a’r technolegau a allai gefnogi treftadaeth yn effeithiol yn y dyfodol.”
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Young i ddarparu'r Gronfa Arloesedd Treftadaeth. Byddant yn darparu cyngor arbenigol ac yn helpu i ddatblygu sgiliau arloesi cyfranogwyr trwy gyfres o sesiynau grŵp ac un-i-un.
Dywedodd Prif Weithredwr Sefydliad Young, Helen Goulden: “Trwy heriau diweddar - o'r pandemig i argyfyngau cenedlaethol a byd-eang eraill - mae safleoedd treftadaeth wedi bod yn hanfodol i iechyd a lles pobl. Mae ein dyled yn fawr iawn i’r rhai sy’n gweithio i warchod mannau o’r fath, gan gefnogi swyddi a thwristiaeth wrth iddynt wneud hynny. Ond mae’n bryd gwneud cynnydd ar rai o heriau ystyfnig a pharhaus y gweithlu, er mwyn sicrhau bod y gweithlu treftadaeth yn gwbl addas ar gyfer y dyfodol.
“Mae gan Sefydliad Young hanes hir a balch o gefnogi cymunedau, pobl a sefydliadau’r DU i arloesi a gweithredu ar y materion sy’n bwysig iddynt. Gwyddom y gall y sector treftadaeth arloesi, ac mae’r pandemig wedi dangos i ni pa mor gyflym y gall newid radical ddigwydd. Mae’n bleser gennym gefnogi’r Gronfa Arloesedd Treftadaeth i ddarparu’r cymorth, y strwythur a’r amgylchedd dysgu cydweithredol ar gyfer sefydliadau treftadaeth sydd am arbrofi a dysgu i adeiladu ffyrdd newydd o weithio mewn byd sy’n newid ac yn newid. Ac rydyn ni wedi ein cyffroi i weld beth sy’n dod i’r amlwg dros gyfnod y gronfa a thu hwnt.”
Angen mwy o ysbrydoliaeth?
Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst i helpu sefydliadau i ddeall nodau’r fenter ac a yw’n berthnasol i chi.
Ymunwch hefo ni am:
- cynhaliwyd gweminar (gweler recordiad) yn cyflwyno'r Gronfa Arloesedd Treftadaeth am 11am ddydd Iau 21 Gorffennaf 2022.
- gweithdai i’ch helpu i fireinio’ch syniad (un digwyddiad i bob sefydliad yn unig, os gwelwch yn dda – mae lleoedd yn gyfyngedig): Dydd Iau 4 Awst, dydd Mercher 24 Awst, dydd Mawrth 13 Medi
Yna bydd gennych hyd at hanner dydd ar ddydd Mawrth 27 Medi i gyflwyno eich cais.
Rhagor o wybodaeth
Archwiliwch ein harweiniad ymgeisio i’r Gronfa Arloesedd Treftadaeth am ragor o wybodaeth a meini prawf cymhwysedd. Mae’r arweiniad yn cynnwys:
- cwestiynau i'w hystyried fel rhan o ddatblygu eich cais
- enghreifftiau o bynciau y gallech eu harchwilio fel rhan o her eich gweithlu