Egwyddorion buddsoddi

Egwyddorion buddsoddi

See all updates
Archwiliwch y gwahaniaeth yr ydym am i'n hariannu ei wneud dros dreftadaeth.

Mae ein pedair egwyddor buddsoddi yn cyfeirio ein holl benderfyniadau am grantiau.

Mae'n rhaid i chi gymryd pob un o'r pedair egwyddor i ystyriaeth yn eich cais. Eich cyfrifoldeb chi yw dangos cryfder y ffocws, a'r pwyslais ar bob egwyddor.

Ystyriwch y canlynol: Sut mae eich prosiect yn adlewyrchu'r hyn yr ydym am ei wneud dros dreftadaeth? Sut y bydd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau dros dreftadaeth?

Achub treftadaeth

Gwarchod a gwerthfawrogi treftadaeth, nawr ac yn y dyfodol.

Beth mae hyn yn ei olygu

Bydd ein cefnogaeth yn sicrhau bod treftadaeth yn parhau i fod yn hygyrch, yn berthnasol, yn gynaliadwy ac wedi'i gwerthfawrogi.

Beth fyddwn ni’n gwneud

Treftadaeth mewn perygl: Byddwn yn ymrwymo cyllid i ddiogelu, gwarchod ac adfywio treftadaeth o bob math sydd mewn cyflwr gwael neu mewn perygl o ddirywio, gael ei difrodi, ei hesgeuluso, ei cholli neu ei hanghofio – gan sicrhau y caiff ei gwerthfawrogi a'i deall yn well.

Buddsoddi mewn lleoedd: Mae gan dreftadaeth rôl unigryw wrth ddod â phobl at ei gilydd yn y lleoedd y maent yn byw, yn gweithio ac yn ymweld â nhw. Byddwn ni'n gwella cysylltiadau pobl â threftadaeth eu lleoedd lleol drwy fuddsoddi a dargedir at ein hamgylchedd hanesyddol a naturiol.

Adfywio a chynnal: Byddwn yn gwahodd cynigion i weithio gyda ni i ddatblygu'r sgiliau, y capasiti a'r arloesedd i gynnal a rheoli treftadaeth. Byddwn yn nodi cyfleoedd i adfywio mathau amrywiol o dreftadaeth.

Beth rydym eisiau ei gyflawni

Erbyn 2033 byddwn wedi:

  • Gwella cyflwr, hyfywedd a dealltwriaeth y cyhoedd o filoedd o safleoedd treftadaeth, casgliadau, cynefinoedd, rhywogaethau a threftadaeth ddiwylliannol anniriaethol.
  • Gostwng, mewn ffordd y gellir ei mesur, maint y dreftadaeth a nodir ei bod 'mewn perygl', boed hynny drwy golled, wynebu difodiant, cael ei asesu fel bod mewn cyflwr gwael neu anffafriol neu mewn perygl o gael ei hanghofio.
  • Cyflwyno prosiectau hirdymor i drawsnewid ardaloedd lleol, trefi, dinasoedd a thirweddau drwy fabwysiadu ymagwedd a dargedir at wella cyflwr treftadaeth a balchder pobl yn eu hamgylchedd lleol.
  • Sicrhau bod yr adnoddau treftadaeth ddigidol a gefnogwn yn agored ac yn hygyrch ac y gall cenedlaethau'r dyfodol eu darganfod.

Diogelu'r amgylchedd

Cefnogi adferiad natur a chynaladwyedd amgylcheddol.

Beth mae hyn yn ei olygu

Byddwn ni'n cefnogi treftadaeth naturiol a phrosiectau amgylcheddol gynaliadwy sy'n helpu'r DU i gyrraedd ei thargedau adferiad natur ac i liniaru effaith newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth.

Beth fyddwn ni’n gwneud

Tirweddau: Byddwn ni'n cynyddu ein cefnogaeth dros brosiectau strategol ac ar raddfa tirweddau – rhai gwledig a threfol fel ei gilydd – sy'n helpu cynefinoedd a rhywogaethau i ffynnu, gan isafu a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, ac ar yr un pryd helpu pobl i gysylltu â'n treftadaeth naturiol unigryw.

Natur: Byddwn ni'n buddsoddi drwy bartneriaethau i helpu i atal a gwrthdroi colled a dirywiad cynefinoedd a rhywogaethau.

Ôl troed amgylcheddol: Byddwn yn cefnogi prosiectau treftadaeth sy'n lleihau effeithiau amgylcheddol niweidiol ac yn helpu treftadaeth i addasu i'n hinsawdd sy'n newid. Os yw prosiectau'n ymwneud ag adeiladwaith, byddwn ni'n annog adfer, gwarchod ac ailddefnyddio, yn hytrach nag adeiladu o'r newydd.

Lliniaru: Byddwn yn cydweithio i ddod â rhanddeiliaid treftadaeth naturiol, adeiledig a diwylliannol ynghyd i nodi a lliniaru risgiau i dreftadaeth o'r hinsawdd a chynnwys pobl wrth sicrhau newid ymddygiad cadarnhaol.

Beth rydym eisiau ei gyflawni

Erbyn 2033 byddwn wedi:

  • Cychwyn adferiad tirluniau a chynefinoedd mewn mannau trefol a gwledig, fel eu bod yn cefnogi treftadaeth naturiol doreithiog a systemau naturiol iach.
  • Cynyddu dealltwriaeth a chysylltiad pobl â natur ar draws trefi, dinasoedd a'r cefn gwlad.
  • Isafu effaith amgylcheddol negyddol ac ôl-troed carbon ein portffolio ariannu.
  • Gwella galluoedd treftadaeth naturiol a diwylliannol wrth gynllunio ar gyfer hinsawdd sy'n newid ac addasu iddo, a helpu prosiectau i weithredu dros yr amgylchedd.

Cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad

Cefnogi gwell cynhwysiad, amrywiaeth, mynediad a chyfranogiad mewn treftadaeth.

Beth mae hyn yn ei olygu

Byddwn yn cefnogi sefydliadau i sicrhau bod gan bawb gyfleoedd i ddysgu, datblygu sgiliau newydd a fforio treftadaeth, beth bynnag fo'u cefndir neu amgylchiadau personol.

Beth fyddwn ni’n gwneud

Cynnwys gwell amrywiaeth o bobl mewn treftadaeth, gan fuddsoddi mewn gwirfoddoli, gyrfaoedd treftadaeth, cyd-greu prosiectau, arweinyddiaeth, llywodraethu a datblygu gwybodaeth a sgiliau.

Galluogi sefydliadau i ddileu rhwystrau i fynediad a chyfranogiad, yn enwedig i bobl sydd heb gael eu gwasanaethu'n ddigonol gan dreftadaeth.

Cefnogi pob cymuned i ymchwilio i'w treftadaeth a'i rhannu, gan ganolbwyntio ar wneud storïau ein pedair gwlad yn fwy cynhwysol o dreftadaeth pawb.

Adnoddau treftadaeth ddigidol hygyrch: Cefnogi gwell defnydd o dechnoleg ddigidol i wneud treftadaeth yn fwy hygyrch a phleserus, a hyrwyddo gwell mynediad at wybodaeth am dreftadaeth, gan alluogi prosiectau i gynyddu eu heffaith a'u cyrhaeddiad.

Beth rydym eisiau ei gyflawni

Erbyn 2033 byddwn wedi:

  • Cynyddu amrywiaeth gweithluoedd, arweinyddiaeth a chynulleidfaoedd treftadaeth.
  • Mynd i'r afael â'r rhwystrau i fynediad ar gyfer pobl sydd heb gael eu gwasanaethu'n ddigonol gan dreftadaeth, gan ddarparu cyfleoedd mwy teg i ymwneud a chymryd rhan yn weithredol.
  • Cyfoethogi bywydau pobl trwy ein buddsoddiadau, gan alluogi treftadaeth pawb i gael ei chydnabod.
  • Cefnogi pobl i ddefnyddio technoleg ddigidol mewn treftadaeth yn greadigol er mwyn hybu mynediad a chyrhaeddiad.

Cynaladwyedd sefydliadol

Cryfhau treftadaeth er mwyn iddi addasu a bod yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau.

Beth mae hyn yn ei olygu

Byddwn yn cefnogi sefydliadau i ddatblygu'r sgiliau a'r capasiti i sicrhau dyfodol cadarn yn y tymor hir ac annog buddsoddi newydd mewn treftadaeth y bydd cymunedau ac economïau'n elwa ohono.

Beth fyddwn ni’n ei wneud

Cefnogi cynaladwyedd ariannol: Byddwn yn parhau i gynnig ariannu i adeiladu cydnerthedd, gan ddarparu capasiti ac arbenigedd i sefydliadau ddatblygu eu cynlluniau sefydliadol ac ariannol hirdymor.

Cefnogi datblygu sgiliau treftadaeth: Byddwn yn cydweithio gyda phartneriaid i nodi cyfleoedd i adeiladu capasiti, sgiliau ac arbenigedd ym maes treftadaeth, er mwyn cyfrannu at gymunedau ac economïau ffyniannus.

Darparu cyllid hyblyg: Byddwn yn cynnig cymorth ariannol hyblyg yng nghamau cynnar cynllunio prosiectau ar gyfer dadansoddi a gweithgareddau paratoi. Byddwn hefyd yn sicrhau bod arian dilynol ar gael am gyfnodau amser cyfyngedig ar ôl cwblhau prosiectau cyfalaf sylweddol i helpu i ymwreiddio sefydlogrwydd gweithredol.

Cyllid a buddsoddi newydd: Byddwn yn hyrwyddo'r defnydd o ffynonellau incwm mwy amrywiol fel cyllid gwyrdd a dulliau masnachol ac yn helpu i adeiladu'r capasiti a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflwyno hyn.

Beth rydym eisiau ei gyflawni

Erbyn 2033 byddwn wedi:

  • Cefnogi sefydliadau i gynyddu eu cynaladwyedd ariannol a sefydliadol drwy ddatblygu eu sgiliau masnachol a digidol a chryfhau llywodraethu ac arweinyddiaeth.
  • Cefnogi datblygu sgiliau a chapasiti yn y sector treftadaeth.
  • Defnyddio ein model ariannu hyblyg i ymwreiddio cydnerthedd yn y prosiectau rydym yn eu hariannu.
  • Galluogi'r sector treftadaeth i gryfhau ei gyfraniad at economïau a chymunedau lleol.