Yr hyn a ariannwn
Rydym yn ariannu amrywiaeth eang o brosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth genedlaethol, rhanbarthol a lleol y DU.
Beth yw treftadaeth?
Dydyn ni ddim yn diffinio treftadaeth. Gofynnwn i chi ddweud wrthym beth rydych chi'n ei feddwl sy'n bwysig a dylid ei warchod a'i gadw.
O adeiladau hanesyddol, ein hetifeddiaeth ddiwydiannol a'r amgylchedd naturiol, i gasgliadau, traddodiadau, straeon a mwy – gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o'r gorffennol rydych chi'n ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.
Gallai eich prosiect treftadaeth gynnwys:
- gwaith natur i wella cynefinoedd neu warchod rhywogaethau, yn ogystal â helpu pobl i gysylltu â natur yn eu bywydau bob dydd.
- tirweddau wedi'u cynllunio sy'n gwella ac yn gwarchod tirweddau hanesyddol fel parciau cyhoeddus, gerddi hanesyddol a gerddi botanegol.
- tirweddau a chefn gwlad - prosiectau gwledig ar raddfa fawr sy'n helpu i wella tirweddau i bobl a natur, drwy, er enghraifft, adfer cynefinoedd a dathlu traddodiadau diwylliannol y tir.
- recordiadau hanes llafar o straeon, atgofion a chaneuon pobl, fel ffordd o gyfathrebu a datgelu'r gorffennol.
- traddodiadau diwylliannol sy'n archwilio hanes gwahanol ddiwylliannau drwy adrodd straeon, neu bethau a wnewch fel rhan o'ch cymuned. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o ddawns a theatr, i fwyd neu ddillad. Gallai hefyd gynnwys treftadaeth ieithoedd a thafodieithoedd.
- coffáu a dathliadau yn adrodd straeon a hanesion pobl, cymunedau, lleoedd neu ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig ag amseroedd a dyddiadau penodol
- adeiladau hanesyddol, henebion a'r amgylchedd hanesyddol o dai a melinau, i ogofâu a gerddi. Ardaloedd sy'n gysylltiedig â hanes a threftadaeth.
- archaeoleg gymunedol yn cynnwys cyfranogiad gweithredol gwirfoddolwyr mewn gweithgareddau archeolegol, popeth o ymchwilio, tynnu lluniau, arolygu i brosesu darganfyddiadau. Weithiau gall gynnwys cloddio. Weithiau fe'i gelwir yn archaeoleg gyhoeddus.
- amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau sy'n gwneud y casgliadau y mae amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau yn eu dal yn fwy hygyrch drwy arddangosfeydd newydd, gwella adeiladau ac orielau cyhoeddus, neu ymgysylltu â phobl i ddehongli casgliadau newydd a phreig
- caffael gwrthrychau newydd yn helpu tuag at y gost o gaffael gwrthrychau neu gasgliadau untro fel rhan o bolisi datblygu casgliadau
- diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth gallai hyn fod yn lleoedd a gwrthrychau sy'n gysylltiedig â'n hanes diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth
Prosiectau rydym wedi'u hariannu
Beth allwch chi wario'r arian arno
Gellir defnyddio'r arian rydych chi'n ei dderbyn ar gyfer:
- gweithgareddau: ymgysylltu â'r gymuned ehangach yn eich treftadaeth. Gallent gynnwys teithiau cerdded treftadaeth dan arweiniad, rhannu hanesion llafar, neu weithdai. Dylai eich gweithgareddau gysylltu â ffocws treftadaeth eich prosiect a gored i anghenion y cynulleidfaoedd yr ydych am weithio gyda nhw, gan gynnwys addasiadau rhesymol.
- atgyweirio a chadwraeth
- allbynnau digidol: gallai hyn fod yn ddelweddau digidol, ffeiliau sain neu ddata, gwefan gyda deunydd treftadaeth, ap, neu ffilm a wnaed gan ddefnyddio technoleg ddigidol
- swyddi staff newydd: gallai hyn gynnwys rhan o rôl gweithwyr presennol, pe baent yn rhoi amser penodol i'r prosiect
- lleoliadau hyfforddi â thâl: gallai hyn hefyd gynnwys hyfforddiant i staff presennol, i gefnogi nodau'r prosiect
- ffioedd proffesiynol: yn cynnwys unrhyw un sy'n gysylltiedig â'ch prosiect yn broffesiynol, o benseiri a gweithwyr treftadaeth proffesiynol i staff addysgu
Ni allwch wario'r arian ar y canlynol:
- swyddi staff presennol neu gostau sefydliadol: oni chlir drwy adennill costau llawn sy'n golygu sicrhau cyllid ar gyfer yr holl gostau sy'n gysylltiedig â rhedeg prosiect. Felly gallwch ofyn am gyllid ar gyfer costau prosiect uniongyrchol a hefyd am ran o orbenion eich sefydliad
- atgyweiriadau i'ch cartref eich hun
- cyfrifoldebau cyfreithiol a/neu statudol: mae'n cynnwys unrhyw beth y byddai'n talu amdano beth bynnag, p'un a aeth y prosiect yn ei flaen ai peidio. Er enghraifft, rhent, cyfleustodau, cynnal a chadw adeiladau, oni bai bod gennych grant menter treftadaeth.
- hyrwyddo achosion neu gredoau sefydliadau gwleidyddol neu ffydd
- TAW adenilladwy
- costau ar gyfer unrhyw weithgaredd sydd wedi digwydd cyn dyfarnu grant
- costau ar gyfer gosod glaswellt neu blanhigion artiffisial
Archwilio'r cyllid sydd ar gael
A oes angen cymorth pellach arnoch gyda'ch cais?
Rydym am sicrhau bod ein cyllid yn agored ac yn hygyrch i bawb. Rydym wedi nodi cynllun i ddiwallu anghenion mynediad pobl, o wasanaethau cyfieithu i gymorth ymgeisio digidol.