Amdanom ni
Rydym wedi ymgorffori cynnwys o YouTube yma. Gan y gall YouTube gasglu data personol ac olrhain eich ymddygiad gwylio, dim ond ar ôl i chi gydsynio i'w defnydd o gwcis a thechnolegau tebyg fel y disgrifir yn eu polisi preifatrwydd y byddwn yn llwytho'r fideo. Byddwn hefyd yn gosod cwci i gofio eich dewis.
Pwy ydym ni a beth ydym ni'n ei wneud
Ni yw ariannwr mwyaf treftadaeth y DU Credwn mewn nerth treftadaeth i danio'r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i ennyn balchder mewn lle a chysylltiad â'r gorffennol.
Rydym yn buddsoddi arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar draws y DU, mewn cydweithrediad ag ystod eang o gyrff statudol, yn ogystal â dosbarthwyr eraill y Loteri Genedlaethol. Mae ein gwaith yn bosib diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
- Fel Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu grantiau'r Loteri Genedlaethol rhwng £10,000 a £10 miliwn a mwy, gan ariannu prosiectau sy'n cynnal a thrawsnewid treftadaeth y DU.
- Fel y Gronfa Treftadaeth, rydym yn dosbarthu ariannu ar ran llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig i sefydliadau treftadaeth.
- Rydym yn darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth ar draws y sector treftadaeth, ac yn eirioli dros werth treftadaeth.
Ers i ni gael ein sefydlu ym 1994, rydym wedi dyfarnu dros £9.2biliwn o arian y Loteri Genedlaethol a chyllid arall i fwy na 52,000 o brosiectau ar draws y Deyrnas Unedig.
Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o'r gorffennol yr ydych chi'n ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Mae deall, gwerthfawrogi a rhannu ein treftadaeth yn dod â phobl at ei gilydd, yn ysbrydoli balchder mewn cymunedau ac yn rhoi hwb i fuddsoddiad mewn economïau lleol.
Arian y Loteri Genedlaethol
Gyda phob tocyn sy’n cael ei brynu, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi arian ar gyfer achosion da. Rydym yn un o'r 12 corff sy'n dosbarthu'r arian hwn.
Rydym yn dyfarnu 20% o'r incwm Achosion Da a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Ers 1994, mae'r Loteri Genedlaethol wedi codi mwy na £48biliwn ar gyfer achosion da.
Sefydliad
Rydym yn gorff cyhoeddus anadrannol sy'n atebol i Senedd y DU drwy'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).
Mae ein penderfyniadau am geisiadau a pholisïau unigol yn gwbl annibynnol o lywodraeth.
Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol yw ein corff cyfreithiol ar gyfer gweinyddu a goruchwylio'r holl arian a freinir ynom. Fe'i sefydlwyd gan y Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol i weinyddu Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol.
Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol yw ein chwaer sefydliad. Mae'n dosbarthu cymorth grant/cyllid gan lywodraeth i dreftadaeth y DU sydd mewn perygl o gael ei cholli.
Mwy o wybodaeth
Rydym wedi cyhoeddi’r cynllun cyflwyno tair blynedd cyntaf ar gyfer ein strategaeth 10 mlynedd newydd, Treftadaeth 2033. Mae'n cynnwys manylion ein cyllidebau a'n blaenoriaethau, a'n Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.