Amdanom ni

Amdanom ni

Ni yw ariannwr treftadaeth mwyaf y DU.

Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu grantiau rhwng £10,000 a £10miliwn i gefnogi prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â'u treftadaeth.

Rydym hefyd yn dosbarthu ariannu treftadaeth ar ran llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig.

Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o'r gorffennol yr ydych chi'n ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Mae deall, gwerthfawrogi a rhannu ein treftadaeth yn dod â phobl at ei gilydd, yn ysbrydoli balchder mewn lle ac yn cefnogi economïau lleol.

Ers i ni gael ein sefydlu ym 1994, rydym wedi dyfarnu dros £9.2biliwn o arian y Loteri Genedlaethol a chyllid arall i fwy na 52,000 o brosiectau ar draws y Deyrnas Unedig.

Ar ben hynny, rydym yn darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth ar draws y sector treftadaeth ac yn eirioli dros dreftadaeth.

Cael gwybod sut i wneud cais am ariannu

Grym treftadaeth

Ein gweledigaeth yw gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.

Credwn mewn nerth treftadaeth i danio'r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i greu cysylltiad â'r gorffennol.

Arian y Loteri Genedlaethol

Mae ein gwaith yn bosibl diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Gyda phob tocyn sy’n cael ei brynu, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi arian ar gyfer achosion da. Rydym yn un o'r 12 corff sy'n dosbarthu'r arian hwn.

Rydym yn dyfarnu 20% o'r incwm Achosion Da a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Ers 1994, mae'r Loteri Genedlaethol wedi codi mwy na £48bn ar gyfer achosion da. 

Sefydliad

Mae gennym 11 o swyddfeydd ar draws y DU gyda phrif swyddfa yn Llundain. Mae'r rhan fwyaf o'n penderfyniadau'n cael eu gwneud yn lleol, gan y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau a ariannwn.

Rydym yn gweithio ar y cyd ag ystod eang o gyrff statudol, fel English Heritage  ac Asiantaeth yr Amgylchedd, yn ogystal â dosbarthwyr eraill y Loteri Genedlaethol.

Rydym yn gorff cyhoeddus anadrannol sy'n atebol i Senedd y DU drwy'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Mae ein penderfyniadau am geisiadau a pholisïau unigol yn gwbl annibynnol o lywodraeth.

Ein hanes

Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (CGDG) yw ein chwaer sefydliad. Wedi'i lansio gan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980, mae'n dosbarthu cymorth grant/cyllid gan lywodraeth i dreftadaeth y DU sydd mewn perygl o gael ei cholli.

Cawsom ein sefydlu ym 1994 fel Cronfa Dreftadaeth y Loteri, pan benodwyd CGDG a’i hymddiriedolwyr yn ddosbarthwr cyfran dreftadaeth arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da. Yn 2019 gwnaethom newid i fod yn Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol yw ein corff cyfreithiol ar gyfer gweinyddu a goruchwylio'r holl arian a freinir ynom.

Mwy am hanes CGDG

Mwy o wybodaeth

Yma gallwch archwilio’r cynllun cyflwyno tair blynedd cyntaf ar gyfer ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033. Mae'n cynnwys manylion ein cyllidebau a'n blaenoriaethau, a newidiadau i'n rhaglenni ar gyfer ariannu gan y Loteri Genedlaethol.